Y Seintiau Newydd yn bencampwyr y Cymru Premier
- Cyhoeddwyd

Mae'r Seintiau Newydd wedi ennill Uwch Gynghrair Cymru am y trydydd tro yn olynol, yn dilyn buddugoliaeth yn erbyn Met Caerdydd.
Wedi colled Cei Connah o 1-0 yn erbyn Y Bala nos Wener, roedd Y Seintiau Newydd yn gwybod y byddai triphwynt yn ddigon i sicrhau'r bencampwriaeth.
Roedd y Seintiau ar y blaen o 3-0 erbyn hanner amser yn y gêm yn erbyn Met Caerdydd brynhawn Sadwrn, cyn i Brad Young sgorio gyda chic o'r smotyn hwyr i'w gwneud hi'n 4-0 i'r tîm cartref.
Dyma'r unfed tro ar bymtheg i'r Seintiau Newydd ennill y bencampwriaeth.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae modd gweld gweddill canlyniadau chwaraeon y penwythnos yma.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Chwefror 2024