'Gwelliannau digonol' uned iechyd meddwl oedd yn 'torri'r gyfraith'

  • Cyhoeddwyd
Ty Grosvenor
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Tŷ Grosvenor ei gategoreiddio fel Gwasanaeth sy'n Peri Pryder yn dilyn arolygiad yn 2023

Mae ysbyty iechyd meddwl preifat yn Wrecsam a oedd yn "torri'r gyfraith" yn ôl arolygwyr, bellach wedi gwneud "gwelliannau digonol".

Mae Tŷ Grosvenor yn gofalu am ddynion sydd â chyflyrau iechyd meddwl ac anhwylderau personoliaeth.

Daeth adolygiad ym mis Tachwedd 2023 i'r casgliad bod nifer o faterion oedd yn torri'r gyfraith ac oedd angen rhoi sylw iddynt ar unwaith.

Mae Elysium Healthcare, sy'n rhedeg yr uned, yn dweud bod y gwasanaeth bellach yn "cydymffurfio'n llawn".

Meddyginiaeth a dogfennau

Cynhaliodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) ymweliad dirybudd am dridiau ddechrau mis Tachwedd ar ôl i bryderon gael eu codi gyda nhw.

Aeth yr arolygwyr i ward acíwt Alwen a ward Brenig sy'n gofalu am gleifion mewnol. 

Gyda'i gilydd mae'r wardiu'n gallu gofalu am hyd at 30 o gleifion.

Daeth yr arolygwyr ar draws problemau gyda dogfennau'n ymwneud â'r Ddeddf Iechyd Meddwl a'r Cod Ymarfer a oedd angen "sicrwydd ar unwaith".

Roedd rhain yn cynnwys diffyg asesiad bob tro o allu claf i roi caniatâd i driniaeth, meddyginiaeth ar bresgripsiwn i gleifion neu ddosau o feddyginiaeth heb dystysgrif caniatâd, a chleifion yn cael meddyginiaeth a allai fod yn wahanol i'r hyn oedd wedi ei nodi ar y dystysgrif caniatâd.

Ffynhonnell y llun, Google

Casglodd yr arolygwyr hefyd nad oedd gwaith archwilio mewnol yr ysbyty wedi sylwi ar y materion hyn.

Cafodd arfer da hefyd ei nodi yn ystod yr adolygiad gydag un aelod o staff ar bob shifft yn cael rôl yr arweinydd diogelwch.

Roedd meddyginiaeth yn cael ei reoli a'i storio'n briodol ac roedd adborth gan gleifion a staff yn "gadarnhaol" ac yn "ganmoliaethus".

Ond oherwydd y materion a oedd angen sylw brys, cafodd yr ysbyty ei nodi fel Gwasanaeth sy'n Peri Pryder gan AGIC.

'Gwelliannau angenrheidiol wedi eu gwneud'

Penderfynodd yr ysbyty roi'r gorau i dderbyn cleifion newydd nes eu bod wedi cynnal adolygiad mewnol.

Mae AGIC yn dweud eu bod wedi gweithio gydag Elysium Healthcare ac erbyn Ionawr 2024 eu bod yn fodlon bod gwelliannau digonol wedi'u gwneud.

Cafodd yr ysbyty ei dynnu wedyn o'r categori Gwasanaeth sy'n Peri Pryder.

Dywedodd Prif Weithredwr AGIC, Alun Jones ei fod yn "galonogol i weld gwelliannau wedi'u gwneud ers ein harolygiad blaenorol".

Dywedodd Elysium Healthcare bod y "gwelliannau angenrheidiol wedi eu gwneud o ran meddyginiaeth, systemau dogfennu a pholisiau llywodraethu".

Pynciau cysylltiedig