'Siomedig' na fydd felodrom seiclo yn Rhuthun
- Cyhoeddwyd
Ar ôl misoedd o waith cynllunio, mae hi wedi dod i'r amlwg na fydd felodrom awyr agored yn cael ei adeiladu yn Rhuthun.
Byddai'r safle yn Sir Ddinbych wedi golygu mai hwn fyddai'r felodrom cyntaf yng ngogledd Cymru.
Yn ôl Beicio Cymru, Chwaraeon Cymru, Cyngor Tref Rhuthun a Hamdden Sir Ddinbych Cyf, roedd yn rhaid iddyn nhw ddod â'r cynllun i ben oherwydd "costau cynyddol a chymhlethdodau".
Dywedodd Caroline Spanton, Prif Weithredwr Beicio Cymru, wrth Cymru Fyw: "Roedd y penderfyniad i beidio parhau â'r cynllun yma yn anodd ond yn anghenrheidiol."
'Bwlch ariannu sylweddol'
Fe ddechreuodd y trafodaethau ar gyfer y felodrom yn 2020, ac roedd grant o £2.3m ar gael gan Chwaraeon Cymru yn 2022.
Ar ôl misoedd lawer o waith dylunio, cafodd y cynllun terfynol ei gymeradwyo fis Rhagfyr 2023.
Ond fe ddaeth hi i'r amlwg bod "bwlch ariannu sylweddol rhwng yr adnoddau sydd ar gael ar gyfer y prosiect a swm y contract gofynnol, a hynny'n bennaf oherwydd lefelau digynsail o chwyddiant yn y diwydiant adeiladu".
Roedd pryderon hefyd y byddai costau'n cynyddu ymhellach oherwydd yr amser y byddai'n ei gymryd i adeiladu'r safle ac nad oedd digon o arian ar gael.
'Pobl ifanc y gogledd yn colli allan'
Mae'r cyhoeddiad yn siom enfawr i deulu Deian Roberts o Dregarth, ger Bangor, sy'n bencampwr seiclo yng Nghymru.
Yn 14 oed, mae'n rasio beics ffordd a thrac ar draws y Deyrnas Unedig a'r llynedd fe enillodd bencampwriaeth Cymru i fechgyn dan 14 yn y ras gylchdaith.
Mae'n rhan o Academi Ieuenctid Beicio Cymru a Chlwb Seiclo Y Rhyl.
Dywedodd ei dad, Gethin Roberts: "Mae'r newyddion na fydd felodrom yn dod i Rhuthun yn siomedig iawn i ni fel teulu.
"Mi fyddai cyfleuster fel hyn yng ngogledd Cymru wedi bod yn wych, yn enwedig i bobl ifanc sy'n seiclo, ac efallai yn annog mwy i gymeryd seiclo i fyny, gyda'r budd mae'n roi o ran iechyd a chadw'n heini.
"Mae'r cyfleusterau fel hyn sy'n bodoli yn barod yng Nghymru i gyd i lawr yn y De, sef dau felodrom awyr agored yng Nghaerdydd a Chaerfyrddin, yn ogystal â'r felodrom cenedlaethol yng Ngasnewydd, felly taith o hyd at bedair awr bob ffordd i ni o adre... mae pobl ifanc Gogledd Cymru yn colli allan oherwydd hyn.
"Fel mae hi, Manceinion ydi'r felodrom agosaf i ni, ac rydym yn teithio yno yn eithaf aml yn enwedig dros y gaeaf i Deian gael cystadlu neu hyfforddi, ond eto mae fanno yn ddwy awr o daith bob ffordd i ni."
Dywedodd Graham Boase, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ddinbych: "Rydym wedi cefnogi'r achos busnes hwn o'r dechrau, yn anffodus mae'r hinsawdd bresennol wedi golygu nad ydym yn gallu cyflawni'r prosiect hwn.
"Mae'r holl randdeiliaid wedi gweithio'n galed iawn i wireddu'r prosiect hwn ac rydym yn gwbl gefnogol i brosiectau'r dyfodol ac rydym yn croesawu'r cyfle yn y dyfodol i weithio gyda Chwaraeon Cymru i flaenoriaethu cyllid ar brosiectau yng ngogledd Cymru."
Ychwanegodd Owen Hathway, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Chwaraeon Cymru: "Mewn sgwrs â Llywodraeth Cymru, ein nod yw bod yr arian a ddyfarnwyd i'r prosiect hwn yn cael ei gadw ar gyfer buddsoddi mewn chwaraeon ac yn ddelfrydol wedi'i neilltuo ar gyfer rhanbarth Gogledd Cymru, wrth inni archwilio cyfleoedd eraill yn yr ardal."Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL: "Yn anffodus, er gwaethaf ymdrechion ac ymdrechion gorau pawb dan sylw, mae'n ymddangos bod y prosiect y tu hwnt i'n cyrraedd.
"Gan gymryd popeth i ystyriaeth, gyda chalon drom y mae bwrdd y prosiect yn dod â'r prosiect i ben a bydd gweddill y grant yn cael ei ddychwelyd i Chwaraeon Cymru i roi pob cyfle i brosiectau chwaraeon (neu brosiect beicio) gael eu cyflawni mewn mannau eraill yng Ngogledd Cymru."
Dywedodd Caroline Spanton, Prif Weithredwr Beicio Cymru, wrth Cymru Fyw: "Yn dilyn heriau a rhesymau ariannol, roedd y penderfyniad i beidio parhau â'r cynllun yma yn anodd ond yn anghenrheidiol.
"Roedd Beicio Cymru wedi gweithio gyda phartneriaid eraill gyda'r bwriad o greu'r felodrom cyntaf yng ngogledd Cymru - cynllun fyddai'n ceisio trawsnewid iechyd, addysg a'r gymuned.
"Er ein bod wedi gweithio'n ddiflino gyda chefnogaeth Chwaraeon Cymru, Cyngor Tref Rhuthun a Hamdden Sir Ddinbych, rydyn ni wedi gorfod dod at y penderfyniad yma oherwydd costau cynyddol a cymhlethdodau.
"Rydyn ni dal wedi ymrwymo i ddatblygu cynlluniau eraill yn y gogledd yn y dyfodol... a byddwn ni'n gweithio'n galed er mwyn sicrhau bod cyfleusterau addas yn cael eu hadeiladu i roi cyfle i bawb seiclo."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2018