Deian a Loli'n dod i'r llwyfan
- Cyhoeddwyd
Mae Cwmni Frân Wen wedi cyhoeddi pwy fydd yn actio rhannau Deian a Loli yn addasiad y sioe deledu ar lwyfan.
Bydd dau set o actorion yn chwarae rhannau'r efeilliaid enwog ar y daith o amgylch Cymru.
Y Ribidirew Olaf
Mae'r pedwar actor ifanc o ogledd Cymru'n perfformio yn Deian a Loli: Y Ribidirew Olaf.
Jack o Danygrisiau ac Ifan o Benisarwaun sy'n rhannu rhan Deian gyda Gweni o Lithfaen a Casi o Frynteg yn rhannu rhan Loli. Roedd y pedwar yn siarad ar raglen Aled Hughes yr wythnos yma.
Mae'r parau ifanc yn chwarae rhan y cymeriadau am yn ail trwy gydol y daith. Byddant yn ymddangos ar lwyfan am y tro cyntaf ym mis Ebrill fel rhan o daith i theatrau ledled Cymru.
Yn ôl datganiad gan Cwmni'r Fran Wen: "Mae Y Ribidirew Olaf yn digwydd ar ddiwrnod cynta'r efeilliaid yn yr ysgol uwchradd, ond dydi Loli ddim eisiau mynd. Ar ben hynny mae goriadau'r car ar goll ac mae Loli'n mynnu mai eu ffrind dychmygol sydd wedi eu cuddio.
"Does dim amdani ond dweud y gair hud - RIBIDIREW! - er mwyn rhewi eu rhieni a mynd ar drywydd y ffrind dychmygol."
Pwy yw'r pedwar?
Tra'n sgwrsio gyda'r cyflwynydd Al Hughes, bu'r pedwar yn sôn am y broses castio, a'u hymateb ar ôl clywed eu bod wedi cael eu dewis.
Meddai Ifan: "Do'n i'm yn ei ddisgwyl o. Nes i mond mynd i'r cyfweliad. Do'ni'm rili'n disgwyl cael mor bell â hynny. Roedd fy ffrind i'n mynd ac o'n i jysd yn tagio mlaen, gweld sut fydd o. Oedd o bach yn anhygoel pan nes i gael o. Do'n i'm yn ei ddisgwyl o gwbl."
Ac oedd Jack yn cytuno: "Pan o'n i'n fychan o'n in licio gwatsiad o yn yr ysgol a ballu. So, pan ges i'r newyddion oedd o'n sbesial."
Mi fydd perfformio mewn cynhyrchiad o'r fath heb os yn brofiad gwerthfawr i'r unigolion ifanc. Ond faint o brofiad actio blaenorol sydd gan y pedwar?
Meddai Casi: "Dwi 'di neud lot efo Eisteddfod yr Urdd. So mae hwnna'n brofiad ar lwyfan. A dwi 'di bod ar y teledu, ond swni'n deud bod y Steddfod fwy fath'a fo achos bod o ar lwyfan."
Ac yn ôl Ifan: "Dwi 'di cymryd rhan mewn sioeau ysgol, ac o'n i'n wastad yn eitha da yn hynna. Dwi wastad wedi mwynhau actio. Gwneud Steddfod pentra'. O gwmpas haf blwyddyn diwethaf nes i ymuno efo ysgol ddrama Glanaethwy, ond dwi mond 'di neud y cân actol efo nhw, dydd Llun diwethaf."
O ddiwedd Ebrill hyd canol Mehefin mi fydd y daith, a fydd yn gymysgedd o berfformiadau i ysgolion a pherfformiadau cyhoeddus, yn ymweld â Bangor, Aberystwyth, Y Rhyl, Caerfyrddin a Chaerdydd. Sut deimladau sydd gan yr actorion ifanc am fod ar y lôn? Oes 'na bryder o gwbl?
Yn ôl Jack: ""Dwi'n berson eitha confident, so dwi'n edrych ymlaen i fynd ar y daith."
Mae Gweni'n cytuno: "Dwi rili yn edrych ymlaen cael mynd ar adventures i lefydd gwahanol yng Nghymru."
RADIO CYMRU - Y Frwydr Fawr: Cymru a Streic y Glowyr
RADIO CYMRU 2 - Dewis: Tara Bandito
PODLEDIAD - Esgusodwch Fi: Y cyfarwyddwr Euros Lyn