Seren deledu â chynlluniau crochenwaith ym Mhwllheli

  • Cyhoeddwyd
Keith Brymer Jones/Capel SalemFfynhonnell y llun, Getty Images/Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae Keith Brymer Jones wrthi'n tro Capel Salem ym Mhwllheli yn gartref ac yn stiwdio crochenwaith

Mae beirniad ar raglen deledu The Great Pottery Throwdown wedi dweud ei fod yn bwriadu dechrau prentisiaethau crochenwaith mewn hen gapel ym Mhwllheli.

Gobaith Keith Brymer Jones yw hyfforddi pobl fydd yn mynd ymlaen i wneud gyrfa i'w hunain ym myd crochenwaith.

Mae ef a'i wraig Marjory Hogarth wedi prynu Capel Salem yng nghanol Pwllheli, gyda'r nod o'i droi'n stiwdio.

Dywedodd eu bod yn "gyffrous dros ben" am symud i ogledd Cymru o dde-ddwyrain Lloegr, a'u bod yn bwriadu dysgu Cymraeg hefyd.

Ffynhonnell y llun, Dogfennau cynllunio Cyngor Gwynedd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Capel Salem ym Mhwllheli yn adeilad rhestredig Gradd II a gafodd ei adeiladu'n wreiddiol yn 1862

Mae Mr Brymer Jones wedi bod yn un o'r beirniaid ar The Great Pottery Throwdown ers iddo ddechrau ar y BBC yn 2015, ac mae wedi parhau yn y rôl ers i'r rhaglen symud i Channel 4.

Bydd y gwaith o drawsnewid y capel hefyd yn cael ei ddogfennu mewn rhaglen ar Channel 4.

Cafodd y capel ei adeiladu'n wreiddiol yn 1862, cyn cael ei ymestyn yn ddiweddarach.

Ffynhonnell y llun, Dogfennau cynllunio Cyngor Gwynedd
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y gwaith o drawsnewid y capel yn cael ei ddogfennu mewn rhaglen ar Channel 4

Dywedodd Mr Brymer Jones ar BBC Radio Wales: "Mae'n tua 8,500 troedfedd sgwâr, mae ganddo ddwy neuadd ac mae reit ynghanol y dref.

"'Da ni'n bwriadu byw yn un o'r neuaddau a throi'r llall yn stiwdio crochenwaith i fi.

"Dwi'n lansio cynllun prentisiaeth i bobl yn yr ardal leol roi tro arni, ac efallai mynd ymlaen i gael gyrfa mewn crochenwaith.

"Felly 'dw i a Marje yn gyffrous dros ben am ddod i fyny i Bwllheli a byw yno."

Dysgu Cymraeg

Mae'r gwaith o drawsnewid yr adeilad rhestredig Gradd II yn digwydd ar hyn o bryd.

"Y peth cyffrous ydi, erbyn yr wythnos nesaf bydd yr adeiladwyr yn symud mewn a dyna pryd y bydd pethau'n trawsnewid, a'r gobaith yw y byddan ni'n gallu byw yno erbyn diwedd y flwyddyn," meddai Mr Brymer Jones.

Ychwanegodd ei fod ef a'i wraig yn bwriadu dysgu Cymraeg ar ôl symud.

"Ym Mhwllheli mae 80% o'r bobl yn siarad Cymraeg, ac rydyn ni'n dod ar draws pobl sy'n ei chael hi'n eithaf anodd siarad Saesneg - ac mae 'na rywbeth dwi wir yn ei hoffi am hynny!"

Pynciau cysylltiedig