27 neidr wedi eu gadael ar ochr ffordd yn Sir Benfro

  • Cyhoeddwyd
Nadroedd mewn bagiauFfynhonnell y llun, RSPCA
Disgrifiad o’r llun,

Mae ymchwiliadau post mortem yn cael eu cynnal ar rai o'r nadroedd er mwyn ceisio deall be oedd achos y marwolaethau

Mae bron i 30 o nadroedd - un o'r rheini dros 17 troedfedd o hyd - wedi cael eu darganfod yn farw yn Sir Benfro.

Cafodd 27 neidr a phedair iâr eu gadael mewn bocsys, bagiau bin a chasys gobenyddion ar ochr ffordd ger pentref Waterston.

Roedd sawl math gwahanol o neidr ymhlith y casgliad, gyda maint y nadroedd yn amrywio o un droedfedd i 17 troedfedd - tua'r un maint â jiráff.

Mae elusen yr RSPCA bellach yn ymchwilio i'r mater ac yn apelio am wybodaeth er mwyn deall o le ddaeth y creaduriaid.

Ffynhonnell y llun, RSPCA
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y neidr fwyaf a gafodd ei darganfod yn mesur 5.2m

Dywedodd Keith Hogben, un o ymchwilwyr yr RSPCA, bod yr achos yma'n un o'r gwaethaf iddo ei weld mewn 25 mlynedd o weithio i'r elusen.

"Cafodd pedair iâr eu darganfod hefyd a dwi'n credu mai bwyd ar gyfer y nadroedd mwyaf oedd y rhain," meddai.

"Yn bendant dyma un o'r pethau gwaethaf i mi orfod delio â fo mewn chwarter canrif.

"Mae hi'n drist iawn i feddwl bod y nadroedd yma, o bosib, wedi bod yn dioddef ers sbel... Fedra i gredu bod hyn wedi bod yn brofiad ofnadwy i'r person wnaeth eu darganfod."

Mae ymchwiliadau post mortem yn cael eu cynnal ar rai o'r nadroedd er mwyn ceisio deall achos y marwolaethau.

Pynciau cysylltiedig