Cronfa er cof am Dr Llŷr Roberts i fyfyrwyr Cymraeg
- Cyhoeddwyd
Bydd cyfle i fyfyrwyr wneud cais am fwrsariaeth newydd er cof am yr academydd Dr Llŷr Roberts.
Bwriad Bwrsariaeth Cronfa Llŷr yw cefnogi myfyrwyr israddedig gyda'u hastudiaethau cyfrwng Cymraeg.
Cafodd ei sefydlu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn cydweithrediad gyda theulu'r diweddar Dr Llŷr Roberts a Phrifysgol Bangor.
Bydd y fwrsariaeth hefyd yn noddi taith sy'n gysylltiedig ag astudiaethau myfyrwyr, sy'n ymwneud â'r Gymraeg neu Astudiaethau Cymreig.
Bu farw Dr Llŷr Roberts, oedd yn un o ddarlithwyr cysylltiol cyntaf y Coleg Cymraeg, ym Mehefin 2023 yn 45 oed.
Bydd hyd at £2,000 yn cael ei roi flynyddol gyda hyd at bedwar dyfarniad o tua £500 i bob myfyriwr buddugol.
'Gwnaeth Llŷr argraff fawr'
Bydd y gronfa yn cael ei chyhoeddi'n swyddogol yng Nghynulliad Blynyddol y Coleg Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor nos Fawrth.
Yn y digwyddiad, bydd Dr Dafydd Trystan o'r Coleg Cymraeg yn rhoi teyrnged i Llŷr yng nghwmni ei deulu, ffrindiau a'i gydweithwyr.
Dywedodd: "Roedd Llŷr yn gyfaill ac yn gydweithiwr annwyl iawn... fe oedd un o'r darlithwyr cysylltiol cyntaf i gael ei benodi i swydd dan nawdd y Coleg Cymraeg.
"Aeth ymlaen i wneud cyfraniad amlweddog i addysg uwch cyfrwng Cymraeg ym maes busnes ym Mhrifysgol De Cymru, Prifysgol Metropolitan Caerdydd ac yn fwyaf diweddar, ym Mhrifysgol Bangor.
"Mewn amser byr gwnaeth Llŷr argraff fawr ar ei gydweithwyr a'i fyfyrwyr... Roedd Llŷr yn angerddol am yr iaith Gymraeg, am astudiaethau busnes a marchnata, am gerddoriaeth ac am deithio.
"Mae ei waddol yn glir, ac mae'n briodol ein bod wedi sefydlu'r fwrsariaeth yma i gefnogi'r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr gyda'u hastudiaethau cyfrwng Cymraeg."
Mae'r coleg yn gwahodd pobl i wneud cais am Fwrsariaeth Cronfa Llŷr yn ystod tymor yr haf, a'r bwriad ydy cyhoeddi'r enillwyr yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ym mis Awst.
Wyneb a llais cyfarwydd
Yn wreiddiol o Lanrug yng Ngwynedd, roedd Dr Roberts yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Brynrefail cyn mynd ymlaen i gael gradd mewn Hanes Fodern o Brifysgol Rhydychen.
Gweithiodd i BBC Cymru am gyfnod, cyn mynd ymlaen i astudio ymhellach ym Mhrifysgol Caerdydd, Prifysgol Met Caerdydd, a Phrifysgol De Cymru, ble cafodd ei radd doethuriaeth.
Yn arbenigwr mewn busnes, rheolaeth a marchnata, bu Dr Roberts yn wyneb a llais cyfarwydd ar y cyfryngau yng Nghymru yn trafod y meysydd hynny dros y blynyddoedd.
Treuliodd nifer o flynyddoedd fel darlithydd ym Mhrifysgol De Cymru, cyn symud i Brifysgol Bangor yn 2023.
Yn ogystal â'i waith academaidd, roedd hefyd yn Ysgrifennydd i Lys yr Eisteddfod Genedlaethol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2023