Eira wedi disgyn dros rannau o Gymru dros nos
- Cyhoeddwyd

Ardal Ffestiniog dan orchudd o eira fore Iau
Mae eira wedi disgyn dros rannau o Gymru dros nos.
Yn hwyr nos Fercher, cyhoeddodd y Swyddfa Dywydd rybudd am eira ar gyfer y mwyafrif o'r wlad rhwng 01:00 a 07:00 fore Iau.
Y disgwyl oedd y gallai tipyn o eira ddisgyn ar dir dros 150m o uchder, ac y gallai daro mannau is na hynny mewn rhai ardaloedd.
Mae'r swyddfa yn rhybuddio y gallai'r amodau gael effaith ar deithio ar y ffyrdd a'r rheilffyrdd fore Iau.
Mae lluoedd heddlu wedi rhybuddio pobl hefyd i fod yn ofalus, yn enwedig yn ardaloedd Dolgellau a Llangurig, ac i osgoi teithio ble fo hynny'n bosib.
Dyma rai o'r golygfeydd ledled Cymru.

Ardal Ffair-rhos yng Ngheredigion

Eira mawr yn ardal Dolgellau

Yr olygfa yn Llangamarch, ger Llanfair-ym-muallt ym Mhowys

Llangwyryfon yng Ngheredigion

Yn ardal Coelbren yn ne Powys roedd digon o eira i wneud dynion eira (bach!)

Pontarfynach yng Ngheredigion fore Iau

Yn edrych am y mynyddoedd yn ardal Ffestiniog

Mae eira wedi disgyn mor bell i'r gogledd â Phenisarwaun, ar gyrion Caernarfon
Rhannwch eich lluniau gyda ni ar cymrufyw@bbc.co.uk