Cerddwr wedi marw ar yr A40 ger Caerfyrddin
- Cyhoeddwyd

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r A40 rhwng Caerfyrddin a Sanclêr tua 04:45 ddydd Llun
Mae'r heddlu wedi cadarnhau bod dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A40 yn gynnar ddydd Llun y Pasg.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i lôn ddwyreiniol y ffordd ddeuol ar gyrion Caerfyrddin tua 04:45 ar 1 Ebrill.
Dywed y llu bod cerddwr wedi marw yn y fan a'r lle yn dilyn gwrthdrawiad â char.
Mae swyddogion arbenigol yn rhoi cymorth i deulu'r dyn a fu farw.
Bu'n rhaid cau'r ffordd yn gyfan gwbl rhwng Caerfyrddin a Sanclêr am dros saith awr ddydd Llun wrth i'r heddlu gynnal ymchwiliad i'r digwyddiad.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Ebrill 2024