'Eisteddfod yn allweddol i fywyd y genedl a'r Gymraeg'
- Cyhoeddwyd

Dr Catrin Jones yw Ysgrifennydd newydd yr Eisteddfod Genedlaethol
Dywed Ysgrifennydd newydd yr Eisteddfod Genedlaethol ei bod yn edrych ymlaen yn fawr at fod yn rhan o dîm "sefydliad allweddol bwysig i fywyd y genedl ac i ffyniant yr iaith Gymraeg".
Wedi proses o recriwtio agored Dr Catrin Jones yw'r ferch gyntaf i ymgymryd â'r swydd a dywed llefarydd ei bod eisoes "wedi dechrau ar y gwaith o sicrhau bod elusen yr Eisteddfod yn cael ei llywodraethu'n effeithiol".
Mae'r Ysgrifennydd yn rôl wirfoddol sy'n cynnig cyngor a chefnogaeth i Ymddiriedolwyr, Cyngor a Llys yr Eisteddfod Genedlaethol.
Mae Dr Jones yn olynu y diweddar Dr Llŷr Roberts a Geraint R Jones.

Catrin a'i theulu yn mwynhau yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli yn 2000
"Mae gennyf ddiddordeb mawr yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac rwyf wedi mynychu'r Ŵyl mwy neu lai yn ddi-dor ers yn blentyn," meddai Dr Jones wrth siarad â Cymru Fyw.
"Bydde fy niweddar dad yn cystadlu gyda Chôr y Mynydd Mawr a dwi'n cofio'r wefr wrth iddi nhw ennill yn Eisteddfod Rhydaman.
"Dwi wedi cystadlu ar y llwyfan gyda chorau gwahanol a hefyd parti llefaru sydd wedi dod â phleser mawr i mi."

Roedd Dr Catrin Jones yn rhan o drefniadau Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd
"Rwyf yn aelod o Gôr Cynhaearn wnaeth ffurfio ar gyfer Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023. Roeddwn yn aelod o Bwyllgor Apêl Cricieth Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd ac wedi cyfrannu'n helaeth i waith hynod lwyddiannus wnaeth gorgyrraedd y targed ariannol ar gyfer yr Eisteddfod.
"Yn ogystal roeddwn yn Aelod o Bwyllgor Profiad Ymwelwyr yr Eisteddfod Genedlaethol. Braint oedd bod yn aelod o Gôr Gwerin yr Eisteddfod i berfformio 'Curiad' gydag artistiaid gwych ein cenedl."
Profiad gweinyddu
Cafodd Catrin ei magu yng Nghwm Gwendraeth. Bu'n ddisgybl yn Ysgol Ramadeg y Gwendraeth ac aeth ymlaen i Brifysgol Aberystwyth i ennill gradd a doethuriaeth mewn Daearyddiaeth.
Yn dilyn cyfnod yn diwtor yn yr adran honno penderfynodd ddilyn gyrfa weinyddol. Bu'n Swyddog ym Mhrifysgol Llambed am 11 mlynedd cyn symud i Fangor yn Bennaeth Cynllunio ac wedyn yn Gofrestrydd Academaidd.
Dychwelodd i Brifysgol Aberystwyth yn dilyn ei hapwyntiad yn Gofrestrydd ac Ysgrifennydd ble bu'n gyfrifol am y drefn bwyllgorau ar draws y Brifysgol i sicrhau rheolaeth a llywodraethiant effeithiol ac yn ysgrifennydd i'r Cyngor a'r Senedd.

Catrin a'i ffrindiau yn mwynhau yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023
Ers ymddeol o waith Prifysgol mae wedi ymgartrefu yng Nghricieth ac wedi bod yn Glerc a Swyddog Ariannol i Gyngor Tref Cricieth am saith mlynedd, ac yn ogystal ers Awst 2020 yn Swyddog Polisi Un Llais Cymru sef y corff cynrychioliadol ar gyfer Cynghorau Cymuned a Thref yng Nghymru.
Mae hi hefyd yn aelod o Fwrdd Llywodraethu GISDA, elusen sy'n darparu llety, cefnogaeth a chyfleodd i bobl ifanc 16-25 digartref a /neu fregus yng Ngwynedd i'w galluogi i symud o gefnogaeth i annibyniaeth.
'Gwaddol i Eisteddfod deithiol'
Wrth gael ei holi beth oedd ei gobeithion am y swydd dywedodd Dr Jones mai'r hyn sy'n bwysig iddi oedd "gweithio fel rhan o dîm i sicrhau llywodraethiant effeithiol gyda'r ffocws ar gyflawni strategaeth yr Eisteddfod, a bod yna drefniadau cadarn yn eu lle er mwyn gwneud yn siŵr bod busnes ac amcanion yr Eisteddfod yn cael eu cyflawni o ddydd i ddydd".
"Mae llywodraethu da yn nodwedd allweddol o elusennau sy'n gweithredu'n dda.
"Rhaid i fwrdd effeithiol sicrhau cyflawniad llwyddiannus diben yr elusen, gwasanaethu ei buddiolwyr, dangos arweinyddiaeth, gwneud penderfyniadau da, bod â gafael da ar risg a gweithredu'n onest mewn hinsawdd sy'n agored ac yn atebol.
"Mae'r Eisteddfod yn sefydliad allweddol bwysig i fywyd y genedl ac i ffyniant yr iaith Gymraeg ac mae angen sicrhau bod yr arlwy sy'n cael ei gynnig yn parhau i ddenu cystadleuwyr a mynychwyr o'r hen i'r ifanc.
"Mae'n bwysig parchu traddodiad ond hefyd bod yn agored i newid er mwyn sicrhau sefydliad sy'n ateb gofynion y Gymru gyfoes.
"Mae yna waddol i Eisteddfod deithiol yn y gymuned ac rwy'n gobeithio y bydd hyn yn parhau."
Wrth gyhoeddi'r penodiad, dywedodd Cadeirydd Bwrdd Rheoli a Llywydd Llys yr Eisteddfod, Ashok Ahir: "Rydyn ni'n falch iawn o groesawu ein Hysgrifennydd newydd, Dr Catrin Jones i'r tîm. Mae ganddi brofiad di-hafal ym maes gweinyddiaeth, llywodraethiant a rheolaeth, ac fe fydd hi'n sicr yn gaffaeliad mawr dros y blynyddoedd nesaf.
"Mae llawer o waith wedi'i wneud yn y maes hwn dros y blynyddoedd diwethaf ac rwy'n sicr y bydd Catrin yn bwrw ati gydag arddeliad er mwyn sicrhau llywodraethiant effeithiol y corff."