Heddwas Dyfed-Powys yn gwadu ymosodiad rhyw ar fenyw

  • Cyhoeddwyd
Heddlu

Mae un o heddweision Heddlu Dyfed-Powys wedi gwadu ymosodiad rhyw ar fenyw yn 2021.

Fe wnaeth DC Sam Garside, 30, ymddangos yn Llys y Goron Abertawe fore Llun.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad honedig ar 3 Rhagfyr 2021. Doedd DC Garside ddim yn gweithio ar y pryd.

Cafodd ei wahardd o'i waith gydag adran Ceredigion ym mis Gorffennaf 2023.

Dywedodd yr Uwch Swyddog Ymchwilio Huw Davies o Heddlu Dyfed-Powys ei fod yn "honiad difrifol".

"Hoffwn sicrhau bod camau gweithredu cyflym wedi'u cymryd pan wnaed yr honiad," meddai "ac rydym nawr yn disgwyl canlyniad y broses cyfiawnder troseddol."

Mae disgwyl i'r achos yn Llys y Goron Abertawe ddechrau ar 25 Tachwedd.

Pynciau cysylltiedig