Ymchwilio i ymosodiad ar lumanwr pêl-droed yn Amlwch
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r Gogledd yn ymchwilio i ymosodiad honedig gan un o dîm hyfforddi Clwb Pêl-droed Amlwch ar lumanwr yn ystod gêm.
Roedd Amlwch yn chwarae yn erbyn Penrhyndeudraeth yng Nghynghrair Pêl-Droed Arfordir Gogledd Cymru ar gae Lôn Bach ddydd Sadwrn 27 Ebrill.
Dywed yr heddlu hefyd eu bod yn ymwybodol o fideo sydd wedi cael ei rannu ar wefannau cymdeithasol yn dangos digwyddiad yn ystod y gêm ond maen nhw'n gofyn i bobl beidio â rhannu'r ffilm "er mwyn osgoi unrhyw beth sy'n gallu niweidio unrhyw weithdrefn gyfreithiol".
Ychwanegodd yr heddlu bod eu hymholiadau yn parhau a'u bod yn annog unrhyw un sydd â fideos ar eu ffonau symudol yn dangos y digwyddiad i gysylltu â nhw.
Collodd Amlwch y gêm o 8-0.
Dywedodd prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Noel Mooney ar X eu bod yn "ymwybodol o'r digwyddiad, fel y mae'r heddlu".
"Does dim lle i hyn mewn pêl-droed," meddai.
Mewn datganiad dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Arfordir Gogledd Cymru (NWCFA) eu bod yn "ymwybodol o fideo ar gyfryngau cymdeithasol mewn perthynas â digwyddiad yn CPD Tref Amlwch".
"Mae'r heddlu'n ymchwilio i'r digwyddiad hwn ar hyn o bryd, ac mae'r NWCFA wedi gofyn am fanylion.
"Er bod hwn yn ymchwiliad sy'n mynd rhagddo, rydym yn annog pobl i beidio â rhannu'r fideo na gwneud sylwadau gan y gallai hyn effeithio ar unrhyw ymchwiliad.
"Bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal i'r digwyddiad ar ddiwedd ymchwiliad yr heddlu."
Mae BBC Cymru wedi cysylltu â chlwb Penrhyndeudraeth am eu hymateb. Nid oedd llefarydd ar ran clwb Amlwch am wneud sylw wrth i'r ymchwiliad barhau.