Adenomyosis: Angen bod yn ymwybodol o'r peryglon i fenywod beichiog

Mae gan Lana wallt hir tywyll ac mae'n gwisgo top du heb lewys gyda botymau. Mae'n gwisgo clust-dlysau lliw aur ac yn gwenu.
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Lana Boocock ymchwilio ar ôl cael trafferthion yn ystod geni ei dau blentyn

  • Cyhoeddwyd

Does dim digon o ymwybyddiaeth am y peryglon i fenywod beichiog sydd â chyflwr adenomyosis, yn ôl arbenigwr.

Yn ôl yr ymgynghorydd gynaecoleg Anthony Griffiths, mae gan fenywod sydd â'r cyflwr risg uwch o golli babi neu eni'n gynnar.

Yr amcangyfrif yw bod y cyflwr yn effeithio ar un mewn deg menyw.

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae'r cyflwr, ynghŷd ag endometriosis yn "un o'r wyth maes o flaenoriaeth yng Nghynllun Iechyd Menywod Cymru".

85 awr i eni plentyn

Mae adenomyosis yn gyflwr lle mae leinin y groth yn tyfu i mewn i'r cyhyr o'i gwmpas.

Yn ôl Lara Boocock, 30 oed, roedd cael diagnosis wedi ei gwneud hi'n haws deall y trafferthion y cafodd hi tra'n rhoi genedigaeth i'w dau blentyn.

Fe gymerodd hi 85 awr iddi eni ei phlentyn cyntaf, a bu'n rhaid i'r babi dreulio amser mewn uned gofal dwys babanod newydd anedig.

"Beth fi wedi'i ddysgu yw bod eich croth ddim yn crebachu, a dyw eich gallu i roi genedigaeth ddim yn datblygu fel y dylai - a dyna'n union ddigwyddodd i fi," meddai.

Dywedodd y fam i ddau o Gaerffili y buasai'n hoffi petai gweithwyr iechyd yn ymwybodol o'r risgiau ychwanegol.

"Mae'n fy mhoeni i i feddwl am faint o fenywod eraill sydd wedi rhoi genedigaeth a chael profiad gwaeth na fi, oherwydd y cymhlethdodau yma."

Mae Lana yn gwenu ac yn edrych i mewn i'r camera. Mae'n gwisg coban a gŵn nos meddygol. Mae ganddi wallt tywyll wedi ei glymu'n uchel. Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Lana Boocock ar ôl cael ei llawdriniaeth hysterectomi

Cyn cael diagnosis, roedd symptomau Ms Boocock mor wael, fel bod yn rhaid iddi ddefnyddio ffon gerdded yn rheolaidd.

Mae hi hefyd wedi cael diagnosis o endometriosis.

"Ro'n i'n colli gwaed bob pythefnos, roedd fy lefelau haearn yn beryglus o isel, a doedd gen i ddim egni i wneud unrhywbeth."

Ar y dechrau roedd y boen yn ei chlun, ac yn cydfynd â'i chylch misol. Ond yn ddiweddarach fe ddatblygodd yn broblem boenus, gyson.

Mewn apwyntiadau meddygol, roedd hi'n clywed ei fod "yn rhan o fod yn fenyw" neu "IBS siwr o fod". Cafodd sawl presgripsiwn ar gyfer y bilsen atal-genhedlu - rhai nad oedd yn cytuno â hi.

Ar ôl blynyddoedd o ddioddef, fe dalodd am lawdriniaeth hysterectomi, a chadw ei ofarïau.

"Ar un adeg, pan o'n i mor sâl cyn fy llawdriniaeth, ro'n i'n cael teimladau hunanladdol.

"Ond pan weles i gynaecolegydd NHS o'r diwedd, a gofyn i gael fy rhoi ar restr am hysterectomi, dywedodd yr ymgynghorydd: 'ti'n rhy ifanc, fe fyddi'n colli dy ffrwythlondeb'...

"O'n ro'n i eisiau ansawdd i fy mywyd."

Mi all llawdriniaeth hysterectomi gael gwared ar symptomau adenomyosis, ond nid yw'n gwella endometriosis.

Dri mis ar ôl cael ei llawdriniaeth, mae Lana'n dweud bod "bywyd yn ffantastig".

"Hoffwn i pe bai'r afiechydon yma'n cael eu cymryd fwy o ddifri',"meddai.

Mae'r ymgynghorydd gynaecoleg Anthony Griffiths, yn dweud bod ein gwybodaeth o adenomyosis wedi gwella.

Dywedodd fod sganio ansawdd uchel MRI bellach yn dod o hyd i'r cyflwr mewn menywod iau erbyn hyn.

Mae tua traean o'r menywod mae'n eu gweld gyda endometriosis hefyd â pheth adenomyosis.

"Mae adenomyosis ac endometriosis yn afiechydon gwahanol, ond mae cymaint o debygrwydd rhyngddyn nhw - mae pobl yn gallu arddangos y cyflwr drwy fislif trwm, poen eithriadol gyda'r mislif, ond gall bara drwy'r cylch mislifol."

Mae yna gyfyngiadau o ran y triniaethau sydd ar gael ar gyfer adenomyosis ac endometriosis ar y Gwasanaeth Iechyd, yn ôl Mr Griffiths.

"Mae na gyfyngiadau ariannol ymhobman yn amlwg, ond oni bai eich bod chi'n cydnabod bod 'na broblem - a phroblem sylweddol - dy'ch chi ddim am roi gwasanaethau iechyd iddo," meddai.

"Ry'n ni'n gwybod ei fod yn difetha' bywydau. Mae 'na gyfradd hunanladdiad uchel o fewn y garfan hon o bobol oherwydd bod ganddyn nhw symptomau poenus, anodd eu trin, ond eto, dy'n nhw ddim yn gallu cael help."

Mae Anthony yn gwisgo siwt lwyd, crys gwyn a thei melyn. Mae'n gwisgo sbectol ac yn edrych ar y camera.
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl yr ymgynghorydd gynaecoleg Anthony Griffiths, mae'r cyflwr yn "difetha bywydau".

'Ddim wedi clywed amdano'

Yn ôl Dee Montague-Coast, o'r elusen Triniaeth Deg i Fenywod Cymru, mae dros 158,000 o bobol yn byw gydag adenomyosis yng Nghymru.

"Ond yn ein profiad ni, fydd pobol ddim wedi clywed amdano o'r blaen," meddai.

"Yn aml, dyw gweithwyr iechyd heb glywed amdano chwaith."

Esbonia bod adenomyosis ond yn ddiweddar wedi ei gynnwys ar wefan GIG 111, ar ôl deiseb gan yr elusen.

"Os nad yw pobol yn gallu dod o hyd i wybodaeth amdano, mae'n niweidio'r claf, mae'n cyfrannu at oedi cyn cael diagnosis, ond mae hefyd yn gwneud drwg i'r staff iechyd sy'n chwilio am y wybodaeth yma."

Mae gan Dee wallt byr tywyll. Mae'n eistedd ar soffa dywyll, yn gwisgo crys-t gwyn gyda'r logo Triniaeth Deg i Fenywod Cymru arno. Mae'r logo yn darlunio tair menyw yn dal dwylo i gyfleu symbol clorian.
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dee Montague-Coast, o'r elusen Triniaeth Deg i Fenywod Cymru yn dweud bod llawer wedi cael trafferth dod o hyd i wybodaeth am y cyflwr

'Angen mwy o fuddsoddiad mewn ymchwil'

Dywedodd llefarydd ar ran Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a Gynaecolegwyr bod angen "mwy o fuddsoddiad mewn ymchwil i ddeall ei effaith posibl ar ffrwythlondeb, colli babanod a geni'n gynnar".

Mae'n nhw hefyd yn galw am "weithredu brys" i leihau rhestrau aros gynaecoleg, gan gyfeirio at "dros 54,000 o fenywod yng Nghymru'n aros ar hyn o bryd am ofal ar gyfer cyflyrau fel adenomyosis - cyflyrau sy'n gallu cael effaith fawr ar ansawdd bywyd".

Ychwanega'r llefarydd eu bod "yn croesawu cydnabyddiaeth Llywodraeth Cymru o adenomyosis yng Nghynllun Iechyd Menywod Cymru. Ond mae'r tanariannu difrifol mewn iechyd menywod yn parhau".

Mae'n nhw'n galw am fwy o fuddsoddiad fel "bod menywod sy'n cael eu heffeithio gan adenomyosis a chyflyrau tebyg yn cael y gofal a'r atebion mae'n nhw'n eu haeddu".

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae endometriosis ac adenomyosis yn "un o'r wyth maes o flaenoriaeth yng Nghynllun Iechyd Menywod Cymru sy'n amlinellu sut ry'n ni'n benderfynol o wella gwasanaethau iechyd i fenywod a phrofiadau menywod o'r gwasanaethau hynny".

"Mae £3m o arian yn cael ei ddefnyddio i weithredu amcanion y cynllun, gyda ffocws clir ar sefydlu canolfan iechyd menywod ym mhob bwrdd iechyd erbyn mis Mawrth 2026, yn ogystal â chefnogi diagnosis gynnar a rheoli cyflyrau fel adenomyosis," ychwanegodd llefarydd.

Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi peri gofid, mae cymorth a rhagor o wybodaeth ar wefan BBC Action Line.

Pynciau cysylltiedig