Rhybudd melyn am stormydd o daranau nos Fawrth

Rhybudd melynFfynhonnell y llun, Y Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Daw'r rhybudd i ben am 23:59 nos Fawrth

  • Cyhoeddwyd

Mae disgwyl stormydd o daranau a chawodydd trymion ar hyd rhannau helaeth o'r wlad brynhawn a nos Fawrth.

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am stormydd o daranau fydd mewn grym rhwng 14:00 a 23:59.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd, fe allai'r tywydd garw achosi llifogydd a thrafferthion i deithwyr.

Ychwanegodd y rhybudd fod difrod i rai adeiladau hefyd yn bosib yn sgil dŵr llifogydd a mellt.

Mae disgwyl i rhwng 10-20mm o law ddisgyn yn yr ardaloedd dan sylw, gyda hyd at 30mm yn bosib mewn rhai mannau.

Mae'r rhybudd yn berthnasol i'r siroedd canlynol:

Blaenau Gwent, Caerffili, Castell-nedd Port Talbot, Ceredigion, Conwy, Gwynedd, Powys, Rhondda Cynon Taf, Sir Ddinbych, Sir Gaerfyrddin, Sir y Fflint, Sir Fynwy, Torfaen a Wrecsam.

Pynciau cysylltiedig