Swyddogion mewnfudo yn arestio 16 ar fferm solar ym Môn

Cafodd y datblygiad ym Mhorth Wen ganiatâd cynllunio yn 2017 er gwaethaf gwrthwynebiad lleol
- Cyhoeddwyd
Mae swyddogion mewnfudo wedi arestio 16 o weithwyr ar fferm solar ym Môn ar amheuaeth o weithio heb y ddogfennaeth angenrheidiol.
Dywedodd y Swyddfa Gartref fod y gweithwyr wedi eu harestio yn fferm solar Porth Wen, ger Cemaes, ar 20 Mawrth.
Roedd difrod sylweddol i'r datblygiad 190 acer yn dilyn Storm Darragh ddechrau Rhagfyr, a'r gred yw bod 15,000 o baneli wedi'u torri neu eu difrodi.
Mae gwaith trwsio sylweddol yn dal i ddigwydd ar y safle.
Cadarnhaodd y Swyddfa Gartref bod hysbysiad atgyfeirio wedi ei gyflwyno i is-gontractwr sy'n gweithio ar ran EDF Renewables UK, sy'n rhedeg y safle.
Dywedodd EDF eu bod yn "trafod yn uniongyrchol gyda'u contractwyr ym Mhorth Wen i adolygu eu prosesau a sicrhau bod mesurau llymach yn eu lle".

"Mae'r newyddion yn codi pryderon pellach am absenoldeb buddion lleol," meddai Rhun ap Iorwerth
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref wrth BBC Cymru: "Fe ymwelodd swyddogion Gorfodi Mewnfudo â Fferm Solar Porth Wen ar 20 Mawrth 2025.
"Cafodd 16 o unigolion eu harestio ar amheuaeth o fyw yn y Deyrnas Unedig a gweithio heb ganiatâd i wneud hynny."
'Methiant sylweddol'
Dywedodd yr Aelod lleol o'r Senedd, Rhun ap Iorwerth, fod "methiant sylweddol" wedi bod.
Ychwanegodd fod yr awgrym fod gweithwyr wedi cael eu cyflogi heb y fisas gwaith angenrheidiol yn "frawychus iawn".
"Mae fy swyddfa wedi bod mewn cyswllt efo EDF, datblygwr y prosiect, i ddeall yn well sut y caniatawyd i gyfraith cyflogaeth gael ei ecsbloetio yn y fath fodd," meddai.
"Er fy mod yn deall eu bod wedi gofyn i is-gontractwyr adolygu'r holl drwyddedau ar gyfer eu gweithwyr, ni fydd yn gwneud fawr ddim i fodloni'r pryderon lleol ehangach sy'n ymwneud â phrosiect sy'n bygwth erwau maith o dir amaethyddol cynhyrchiol."
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2024
Cafodd y datblygiad 49.9MW ym Mhorth Wen ganiatâd cynllunio yn 2017 er gwaethaf gwrthwynebiad lleol.
Dywedwyd y byddai'r paneli yn gallu cynhyrchu digon yn flynyddol i bweru dros 15,500 o gartrefi.
Ond mae pryder wedi bod ar yr ynys yn dilyn sawl cais i godi datblygiadau solar yn ddiweddar, gan gynnwys un fyddai'n gorchuddio ardal maint 1,700 o gaeau pêl-droed, hefyd yng ngogledd Ynys Môn.
Ychwanegodd Mr ap Iorwerth: "Rwyf wedi codi pryderon yn gyson am ddatblygiadau solar ar raddfa fawr ar Ynys Môn ers blynyddoedd lawer ac wedi rhybuddio na fyddai datblygiadau o'r fath yn dod â llawer o fudd i'r gymuned leol.
"Mae'r newyddion bod gweithwyr wedi cael eu cyflogi ar safle Porth Wen heb y trwyddedau angenrheidiol yn codi pryderon pellach am absenoldeb buddion lleol go iawn."