Disgwyl manylion ar gynllun i roi pobl 'ffit' yn unig ar restrau aros

LlawdriniaethFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i ragor o fanylion gael eu datgelu am gynlluniau i fynd i'r afael ag apwyntiadau sy'n cael eu methu

  • Cyhoeddwyd

Mae disgwyl i ragor o fanylion gael eu datgelu ddydd Llun am gynlluniau i fynd i'r afael ag apwyntiadau sy'n cael eu methu - sy'n cynnwys ychwanegu pobl "ffit" yn unig at restrau aros.

Bydd yr Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Miles yn rhoi araith i arweinwyr iechyd ar gais llywodraeth Cymru i dorri rhestrau aros o tua chwarter erbyn mis Mawrth 2026.

Dywedodd John Timmons, 70, sy'n wirfoddolwr ysbyty, ei fod yn gweld "nifer hurt" o gleifion yn methu apwyntiadau ac y byddai'n cefnogi'r cynlluniau.

Ond dywedodd elusen cydraddoldeb iechyd, Triniaeth Deg i Ferched Cymru (FTWW), y gallai oedi rhai pobl rhag chwilio am gymorth oherwydd eu bod yn "ofni stigma am eu pwysau."

Mae'r newidiadau arfaethedig yn rhan o nifer o syniadau llywodraeth Cymru sy'n cael eu trafod i wella'r GIG - sydd yn ddiweddar wedi gweld gostyngiadau bach yn y rhestrau aros uchaf erioed.

Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Cleifion sy'n methu apwyntiadau ysbyty ddwywaith neu fwy yn cael eu hatgyfeirio yn ôl at eu meddyg teulu - i bob pwrpas yn eu gosod yng nghefn y ciw.

  • Ap gwell gan GIG Cymru sy'n galluogi cleifion i wirio eu cynnydd drwy'r system ac i greu neu newid apwyntiadau.

  • Lefelau uwch o ymyrraeth i gael cleifion yn ffit ar gyfer llawdriniaeth, megis gofyn i bobl golli pwysau neu wneud mwy o ymarfer corff cyn iddynt gael eu rhoi ar restr aros.

Dywedodd llywodraeth Cymru bod cleifion oedd yn ffit ac yn iach cyn llawdriniaeth yn fwy tebygol o wella'n gyflym ac y byddai cefnogaeth yn cael ei roi i'w cael "yn y siâp gorau posib" am driniaeth.

John Timmons
Disgrifiad o’r llun,

"Gallai rhywun arall sydd wir angen triniaeth fod yno," meddai John Timmons

Dywedodd Mr Timmons, o Gaerdydd, ei fod yn cefnogi'r cynigion ar y cyfan, gan gynnwys y sancsiynau ar gyfer apwyntiadau sy'n cael eu methu.

"Gallai rhywun arall sydd wir angen triniaeth fod yno – os ydyn nhw o oedran gweithio, fe allen nhw gael eu hunain yn ôl i weithio," meddai Mr Timmons.

Cafodd ei gyfeirio gan ei ffisiotherapydd at gynllun ymarfer corff yn ei ganolfan hamdden leol i'w helpu tra'n aros am ail ben-glin newydd.

"Mae bod yn ffit yn bendant yn helpu gydag adferiad," meddai Mr Timmons, gan ychwanegu ei fod hefyd wedi profi buddion cymdeithasol o ymarfer corff.

"Yn y gorffennol cefais fy secondio i weithio yn y ganolfan waith a byddwn yn rhoi pobl ar atgyfeiriadau ymarfer corff, ac roedd hynny'n beth da.

"Roedd yn eu cael nhw allan o'r tŷ, eu cael nhw'n ffit ac yn ôl i'r gwaith hefyd."

Jeremy MilesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Miles yn dweud ei fod am gwtogi 200,000 ar restr aros Cymru

Dywedodd Jeremy Miles fod 700,000 o apwyntiadau cleifion allanol ysbytai wedi'u methu neu eu canslo y llynedd.

Dywedodd hefyd y dylai cleifion wneud mwy i wella eu hiechyd eu hunain "er mwyn gwneud y defnydd gorau posib o adnoddau prin y GIG".

Ond mae FTWW yn bryderus y gall prosesau cyffredinol gosbi pobl â rhwystrau yn anfwriadol a bod angen ymgysylltu â "grwpiau amrywiol o gleifion".

Dywedon nhw mai un o'r materion mwyaf gafodd ei adrodd gan aelodau oedd pa mor anodd mae'n gallu bod i gael gafael ar rywun i ganslo neu aildrefnu apwyntiadau.

"Rydyn ni'n gwybod, er enghraifft, bod menywod yn arbennig yn fwy tebygol o fod yn ofalwyr sylfaenol yng Nghymru, felly gall apwyntiadau sy'n cael eu gwneud heb sefydlu cyfrifoldebau ac ymrwymiadau eraill yn gyntaf fod yn broblematig."

AnnieHillman
Disgrifiad o’r llun,

Mae galw aruthrol am ddosbarthiadau i gleifion sydd wedi'u hatgyfeirio, meddai Annie Hillman

Mae Annie Hillman yn rheolwr chwaraeon ac iechyd cymunedol ar gyfer yr wyth Canolfan Hamdden Better Leisure yng Nghaerdydd.

Mae'r canolfannau wedi darparu sesiynau ar y cyd gyda'r GIG ers sawl blwyddyn, lle gall cleifion â phoen clun, pen-glin a chefn hunangyfeirio, neu gael eu hatgyfeirio gan dimau ffisiotherapi ysbytai.

Mae staff y GIG wedyn yn cyflwyno dosbarthiadau yn y ganolfan hamdden yn hytrach na'r ysbyty.

Mae staff y ganolfan hefyd wedi cael eu hyfforddi i gymryd sesiynau neu asesu cleifion sydd wedi eu hatgyfeirio gan eu meddyg teulu.

"Ar ddiwedd y cynllun chwe wythnos lle bydden nhw wedi gadael yr ysbyty maen nhw eisoes yn y ganolfan hamdden, maen nhw eisoes wedi chwalu'r rhwystr hwnnw o ddod drwy'r drws," meddai.

"Maen nhw'n gweld pobl fel nhw'u hunain yn gwneud ymarfer corff, a dyna'r newid ymddygiad maen nhw'n parhau i'w gael.

"Mae'n atal y broblem - dydyn nhw ddim eisiau mynd yn ôl at y meddygon, dydyn nhw ddim eisiau mynd yn ôl i'r GIG, maen nhw'n cadw'n actif.

"Mae 'na alw aruthrol ond mae'r diffyg cyllid i ni yn broblem."