Storm Darragh: Difrod 'anghredadwy' i fferm solar fawr ar Ynys Môn
- Cyhoeddwyd
Mae difrod "anghredadwy" wedi bod i fferm solar fawr ar Ynys Môn yn dilyn gwyntoedd Storm Darragh.
Mae lluniau o safle Porth Wen, yn Llanbadrig, yn dangos difrod i gannoedd o baneli solar ac i dyrbin gwynt.
Mae gan y safle 190 erw, a gafodd ei adeiladu yn 2022, gapasiti i gynhyrchu trydan i hyd at 9,500 o gartrefi ar yr ynys.
Dywedodd llefarydd ar ran EDF Renewables UK, sy'n rhedeg y safle, y bydd gwaith atgyweirio yn parhau tan y flwyddyn newydd.
Roedd dros 100,000 o gartrefi heb drydan yng Nghymru yn ystod Storm Darragh.
Dywedodd National Grid bod tua 8,000 o adeiladau heb gyflenwad yn y de a'r gorllewin am 17:00 ddydd Mawrth, ond eu bod wedi adfer cyflenwadau i 700,000 o adeiladau ers dechrau'r storm.
Roedd SP Energy Networks yn amcangyfrif nos Fawrth bod tua 2,000 yn dal heb drydan yn y gogledd a'r canolbarth.
Mae 'na ddifrod hefyd i Borthladd Caergybi, gyda dim byd yn cyrraedd na gadael y porthladd am y tro.
Bydd y porthladd ar gau tan o leiaf 18:00 nos Fawrth.
'Gwydr yn bob man'
Dywedodd Emma Shortman, sy'n byw gerllaw, bod yr olygfa yn "anghredadwy".
"Roedd 'na baneli i fyny yn yr awyr, ac wedyn darnau o wydr bob man ar y gwair," meddai.
Dywedodd y Cynghorydd Derek Owen, Ward Twrcelyn fod y gwyntoedd cryf ar yr ynys yn rhywbeth y dylai ddatblygwyr ystyried i'r dyfodol.
"Ar ddiwedd y dydd mae 'na gymaint o wynt ar Ynys Môn... dyma'r difrod 'da chi'n mynd i gael bob blwyddyn."
Dywedodd llefarydd ar ran EDF Renewables UK: "Yn anffodus mae difrod wedi bod i Fferm Solar Porth Wen yn ystod Storm Darragh.
"Rydym yn asesu'r difrod ac yn cynnal gwaith glanhau dan reolaeth.
"Unwaith y bydd yr ymdrechion adfer wedi'u cwblhau a'r difrod wedi'i asesu'n llawn, byddwn yn cynnal ymchwiliad llawn a'n ailddechrau cynhyrchu pan fo'n ddiogel i wneud.
"Mae disgwyl i'r gwaith atgyweirio ac ailosod y paneli sydd wedi'u difrod barhau tan ddechrau 2025."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd9 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd9 Rhagfyr 2024