Y Byd yn Grwn: Pod newydd am bêl-droed llawr gwlad

Andy yn Mynydd Llandygai
Disgrifiad o’r llun,

Andy Walton sy'n cyflwyno'r podlediad newydd, Y Byd yn Grwn

  • Cyhoeddwyd

Ers dros ddegawd bellach mae Andy Walton yn fwy adnabyddus fel y Welsh Whisperer.

Pan mae'n cerdded lawr y stryd prin fod pobl yn ymwybodol o'i enw go iawn.

Ond y tu ôl i'r mwstash a'r cap stabal, mae gŵr sy'n caru pêl-droed ac i'w weld yng nghlybiau lleol y gogledd orllewin, ble mae'n byw, yn cefnogi'r timau.

Mae Andy yn cyflwyno podlediad newydd sydd ar gael ar BBC Sounds sy'n rhoi cipolwg y tu ôl i'r llenni ar glybiau llawr gwlad a'r gwrifodolwyr allweddol sy'n eu rhedeg.

Lleisiau Cymru: Y Byd yn Grwn

Andy Walton ar daith o amgylch rhai o glybiau pêl-droed y Gogledd Orllewin

'Cefnogi tîm lleol'

Pan ddaeth y cynnig i Andy gyflwyno'r pod roedd wrth ei fodd.

Ers iddo symud i fyw i Gaernarfon mae i'w weld yn aml yn cefnogi'r Caneris gyda gweddill y Cofi Army.

"Tydw i ddim yn cefnogi tîm mawr yn y Premier League yn Lloegr, a does gen i ddim byd i ddweud wrth y Champions League chwaith, ond dwi wrth fy modd mynd i wylio gemau pêl-droed lleol." meddai Andy.

Ble bynnag y mae Andy wedi byw, mae wedi ceisio gwylio a chefnogi'r tîm lleol hwnnw.

Fe gafodd ei fagu yn agos i Lanboidy, Sir Gaerfyrddin ac fe soniodd fod ei dad yn chwarae i'r clwb lleol unwaith.

"Pan nes i fynd i'r coleg yn Sheffield nes i ddechrau gwylio'r Blades (Sheffield United) yn chwarae a ro'n i'n stiward yno ar gyfer un gêm.

"Pan o'n i'n byw ym Mynydd Llandygai wedyn, roeddwn wrth fy modd yn mynd i wylio eu gemau nhw, ac yn sydyn rydych yn gweld yr effaith mae unigolion yn cael ar gadw'r clwb i fynd," meddai.

Andy yn Felinheli
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r bennod gyntaf ynglŷn ag ymweliad Andy i GPD Y Felinheli

Mae'r podlediad yn dilyn Andy a'r cynhyrchydd, Gethin Griffiths, wrth iddyn nhw ymweld â chlybiau lleol ar ddiwrnod gêm.

Fel mae Andy yn ei ddisgrifio yn y cyflwyniad, mae'n ymweld â'r "clybiau sydd yng nghanol eu cymunedau" ac mae'n ceisio deall "beth sydd yn cadw clybiau pêl-droed Cymru i fynd."

Y cyntaf yw CPD Y Felinheli sy'n chwarae yn nhrydedd haen y pyramid pêl-droed yng Nghymru.

Mae hefyd yn ymweld â Mynydd Llandygai, treulio 45 munud yn Llanberis cyn neidio i'r car yn ystod hanner amser a gwylio ail hanner yn Llanrug, sydd gwta bum milltir lawr y ffordd.

Pwysigrwydd y gwirfoddolwyr

"Dwi wedi bod wrth fy modd yn mynd o glwb i glwb a dysgu mwy am bwysigrwydd clybiau yma i'r cymunedau.

"Un peth 'naeth fy nharo i oedd pa mor ddifrifol mae'r cefnogwyr yn cymryd y gemau ac yn trin eu clwb.

"Hefyd, pa mor bwysig yw'r gwirfoddolwyr, nid jest troi lan ar ddyddiau Sadwrn maen nhw, ond mae 'na waith yn ystod yr wythnos o ran trefnu gyda'r tîm arall ac ati.

"Nes i gwrdd â Kim sy'n ysgrifennydd clwb Llanberis a dysgu mwy am faint y gwaith sydd 'na yn ystod yr wythnos o ran trefnu gêm.

"Mae hi'n gorfod cysylltu gyda'r reff, trefnu nad oes kit clash gyda'r tîm arall ac ati. Heb y gwirfoddolwyr yma fase'r clybiau yma byth yn gallu cario 'mlaen i fodoli.

"Ym Mynydd Llandygai wedyn mae un teulu mwy neu lai yn gweithio gyda'i gilydd i redeg y tîm a'r gwaith oddi ar y cae. Mae'n anhygoel," meddai.

Un peth y sylwodd Andy hefyd yw'r to ifanc sy'n camu i'r adwy i helpu eu clybiau lleol.

"Un arall o Lanberis yw Gerallt. Mae'n ifanc ac wedi bod yn dilyn y clwb ers mae'n blentyn. Mae'n mynd i bob gêm a Llanberis yw popeth iddo. Mae o hyd yn oed wedi cael tatŵ Llanberis ar ei goes – dyna faint mae'r clwb yn ei olygu iddo," meddai.

Andy a Gerallt
Disgrifiad o’r llun,

Andy a Gerallt, sy'n weithgar iawn gyda chlwb pêl-droed Llanberis

Bod yng nghanol pobl oedd yn plesio Andy fwyaf a sylwi yn y bôn bod pêl-droed lleol ar lawr gwlad yng Nghymru mewn sefyllfa iach.

"Mae hon yn ardal reit dda i glybiau lleol, mae cymaint ohonyn nhw ac maen nhw'n lwcus iawn o'r gefnogaeth gan y bobl leol.

"Mae'r pod yma'n gymysgedd o'r pêl-droed a dod i adnabod yr arwyr tawel hynny sy'n cadw popeth i fynd.

"Nes i sylwi yn gyflym iawn wrth drio gwneud jôcs gydag ambell un bod pobl yn warchodol iawn o'u clybiau ac roedd hynny yn beth braf iawn i'w weld," meddai.

Er bod cymeriad y Welsh Whisperer yn parhau i ddiddanu cynulleidfaoedd ar draws Cymru, roedd hi'n deimlad braf i Andy allu camu allan o'r cymeriad hoffus i wneud y podlediad.

"Dyma fy niléit i ar y penwythnosau, ers symud i Gaernarfon mae'r Cofi Army wedi bod yn groesawgar iawn. Dwi wrth fy modd yn mynd i wylio Caernarfon ond na'i dal hefyd fynd i wylio timoedd lleol eraill fel Nantlle Vale.

"Dwi jest wrth fy modd yng nghanol pobl ac yn gwylio pêl-droed yn eu cwmni."

Pynciau cysylltiedig