Prifathro yn pledio'n euog ar ôl ymosod ar ei ddirprwy yn yr ysgol

Dr Anthony Felton oedd pennaeth Ysgol Gatholig St Joseph's yn Aberafan
- Cyhoeddwyd
Mae prifathro wedi pledio'n euog i achosi niwed corfforol difrifol gyda bwriad yn dilyn ymosodiad ar ei ddirprwy ar dir yr ysgol.
Cafodd Anthony John Felton, 54, ei arestio yn dilyn digwyddiad yn Ysgol Gatholig St Joseph's yn Aberafan, Castell-nedd Port Talbot ar 7 Mawrth.
Felton oedd prifathro'r ysgol ar y pryd. Cafodd ei benodi - yn ôl adroddiad blynyddol corff llywodraethu'r ysgol - ym mis Medi 2023.
Cafodd Richard Pyke, 51, driniaeth yn yr ysbyty am fân anafiadau yn dilyn yr ymosodiad.
Y digwyddiad ar CCTV
Fe ymddangosodd Felton, sydd o ardal Gorseinon, yn Llys y Goron Abertawe ddydd Llun trwy gyswllt fideo.
Mewn gwrandawiad byr, siaradodd i gadarnhau ei enw a phlediodd yn euog i gyhuddiad o achosi niwed corfforol difrifol gyda bwriad.
Yn amddiffyn, dywedodd ei fargyfreithiwr John Hipkin fod y digwyddiad wedi arwain at "gwymp sylweddol" i enw da ei gleient.
Ni chafodd manylion y drosedd na'r amgylchiadau o'i chwmpas eu datgelu ond clywodd y llys fod "cefndir unigryw" i'r digwyddiad.
Dywedodd John Hipkin KC, sy'n amddiffyn, wrth y llys fod Felton, sy'n cael ei adnabod wrth ei enw canol, wedi achosi "nifer o ergydion" i Mr Pyke.
Cafodd y digwyddiad ei ddal ar deledu cylch cyfyng (CCTV).

Anthony John Felton yn cyrraedd Llys Ynadon Abertawe ddechrau Mawrth
Rhybuddiodd y Barnwr Paul Thomas KC bod "dedfryd o garchar yn anochel" i Felton.
"Yng nghyd-destun ble a sut y cyflawnwyd y drosedd hon, ac yn benodol, o gofio'r duedd o drais mewn ysgolion a gyflawnir gan ddisgyblion, mae'n ymddangos i mi fod fy nyletswydd cyhoeddus yn mynnu mai dim ond dedfryd o garchar y gellir ei rhoi yma," meddai'r barnwr wrth Mr Hipkin.
Mae Felton wedi'i gadw yn y ddalfa, a bydd yn cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Abertawe ar 25 Ebrill.
Gohebu ychwanegol gan PA Media.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mawrth
- Cyhoeddwyd5 Mawrth