Beti a'i Phobol: Pum peth o sgwrs Kathy Gittins

Beti George a Kathy Gittins
  • Cyhoeddwyd

Un o sir Drefaldwyn yw Kathy Gittins, yr, artist, dylunydd a pherchennog pedair siop ddillad. Y llynedd, fe gaeodd ddrysau'r siopau am y tro olaf.

Ymunodd â Beti George i siarad am ei bywyd difyr: o'i phlentyndod gwledig ar aelwyd ddwyieithog, i dor-priodas a "rhedeg i ffwrdd" i Ben Llŷn a sefydlu gyrfa lewyrchus. Dyma bump peth ddysgon ni amdani yn ei phennod hi o Beti a'i Phobol.

Cau'r siop i ganolbwyntio ar y pethau pwysig

Kathy Gittins a'i hwyrionFfynhonnell y llun, Kathy Gittins
Disgrifiad o’r llun,

Kathy a'i hwyrion, sy'n ei galw ni'n Mimi

Yn ogystal ag effeithiau anochel Covid a Brexit, roedd y penderfyniad i gau ei siopau yn un a wnaed yn bennaf er mwyn arafu bywyd rhyw fymryn a chael mwynhau mwy o amser gyda'i phartner, Dick, ei phlant, James, Gemma, Camilla ac Edward, a'i wyrion – mae deuddeg ohonyn nhw i gyd! Am hynny dywedodd "Chewch chi byth yr amser yma yn ôl."

"Roedd yn benderfyniad caled iawn," meddai Kathy ac fe "gymerodd amser i feddwl am y peth." Roedd ei phartner wedi awgrymu bod "mwy i fywyd" a bod angen cymryd amser i "fwynhau be' sydd gennym ni." Eglurodd bod ei merched hi hefyd wedi dweud ei bod hi'n "gweithio, gweithio gweithio" a'u bod nhw'n prin yn ei gweld hi, felly fe ddaeth i'r casgliad ei bod hi'n amser rhoi'r gorau iddi.

Mae un siop yn parhau'n agored yn y Trallwng dan berchnogaeth newydd.

Siop Kathy Gittins, TrallwngFfynhonnell y llun, Kathy Gittins Y Trallwng
Disgrifiad o’r llun,

Siop Kathy Gittins yn y Trallwng, sydd dal ar agor dan berchnogaeth newydd

Ei nod oedd gwneud ffasiwn yn rhywbeth i bawb

"Dw i ddim yn berson sy'n mynd amdan y pethau drutaf o gwbl."

Ansawdd a bod yn gyfforddus yw'r pethau oedd yn bwysig i Kathy wrth ddewis dillad i'w siop, meddai hi. Mae wedi teithio'r byd yn ymweld â sioeau ffasiwn a ffeiriau prynu dros y blynyddoedd, ond roedd ei gwreiddiau 'merch fferm' yn cadw'i thraed a'i busnes ar y ddaear.

"Cofiwch, merch fferm [ydw i]. Doedd dim pres gynnon ni. A felly dwi'n wastad wedi mynd ati i brynu yn meddwl amdan y rhan fwyaf o 'nghwsmeriaid i a cael rhywbeth allwn ni gyd fforddio yn y siop, sy' mor bwysig."

Mae'n ychwanegu bod "un neu ddau A-lister" wedi bod yn y siop ond nad yw darparu ar gyfer y math yna o gwsmeriaid yn ei gwreiddiau hi.

Roedd wythnos yr Eisteddfod wastad yn eithriadol o brysur, gyda nifer o fenywod Cymru yn brysio i'r stondin ar y Sadwrn cyntaf i geisio cael y fargen orau o'r sêl.

Ysgariad, peintio a dechrau newydd

Kathy GittinsFfynhonnell y llun, Kathy Gittins
Disgrifiad o’r llun,

Kathy gyda'i chardiau cyfarch yn 2001

Eglura Kathy ei bod hi'n ifanc iawn yn priodi – 22 mlwydd oed oedd hi ac yn fuan wedyn roedd hi wedi cael pedwar o blant mewn 7 mlynedd. Dywedodd erbyn ei bod hi'n 30 mlwydd oed, roedd hi wedi newid, wedi aeddfedu'n arw a'i bod hi "mor mor anhapus" yn ei phriodas.

Roedd gadael ei gŵr cyntaf, John, yn anodd iawn meddai gan eu bod nhw'n byw ac yn dod o gymdeithas mor glos. Ond bu'n rhaid iddi fod yn ddewr a gwneud y "peth call" a gadael.

Roedd hi wastad wedi peintio, ac wedi astudio Celf ym mhrifysgol Wolverhampton a roedd y paentiadau oedd hi wedi'u cwblhau dros y blynyddoedd yn sbardun i ddechrau busnes.

Fe symudodd lawr y ffordd i Feifod a dechrau'r busnes yn gwerthu cardiau cyfarch yn Nhŷ Cornel, Meifod. Yn fuan wedyn symudodd i Ben Llŷn, i Bwllheli ac agor siop yn fanno. Esblygodd y busnes dros y blynyddoedd yn bedair siop ddillad lwyddiannus iawn – ym Mhwllheli, y Trallwng, Narberth a'r Bontfaen.

Maen nhw'n deulu o artistiaid

Kathy gyda'i merch CamillaFfynhonnell y llun, Kathy Gittins
Disgrifiad o’r llun,

Mae Camilla, merch Kathy, yn gwneud bywoliaeth fel artist

Mae nifer o deulu Kathy hefyd yn gweithio yn y byd ffasiwn a chelfyddydol.

Dilynodd ei merch hi, Camilla, gwrs sylfaen Celf ac mae hi'nartist "abstract" iawn yn ôl ei mam. Bu Camilla yn gweithio i'r dylunwyr byd-enwog Jack Wills a Tommy Hilfigher.

Eglurodd Kathy, "Cynllunio'r ffenestri yn rhyngwladol [oedd hi i Jack Wills]. Hi oedd yn cynllunio nhw a wedyn danfon ei cynlluniau hi mewn siopau ledled y byd."

Ar ôl gweld ei gwaith i Jack Wills, fe dderbyniodd ei merch wahoddiad am gyfweliad gyda Tommy Hilfigher. Bu'n gweithio i'r dylunydd am ddeng mlynedd yn peintio lluniau gwreiddiol i'w hadeiladau nhw.

Kathy Gittins a'i chwaer PaulaFfynhonnell y llun, Kathy Gittins
Disgrifiad o’r llun,

Mae Paula, chwaer Kathy, yn gweithio fel artist colur yn y diwidiant ffilm

Un arall artistig yn ei theulu yw ei chwaer, Paula. Mae Paula'n gweithio fel colurydd gyda rhai o sêr actio enwog. Dywedodd Kathy y byddai nifer o bobl yn gyfarwydd â gwaith Paula, gan enwi un yn benodol.

"Un o'r gwynebau fysach chi'n yn 'nabod yn dda ydi trwyn Emma Thomson a Nanny McPhee."

Paula greodd trwyn nodweddiadol Nanny McPhee yn y ffilmiau ddechrau'r 2000au.

Emma Thompson fel Nanny McPheeFfynhonnell y llun, Working Title/Universal Studios
Disgrifiad o’r llun,

Emma Thompson fel Nanny McPhee – chwaer Kathy, Paula, oedd y colurydd a oedd yn gyfrifol am greu'r trwyn

Linda Griffiths yw ei chyfneither

Mae Kathy yn gyfneither i'r gantores a chyflwynydd, Linda Griffiths, neu Linda Penbryn fel y mae hi'n ei galw hi. A gyda hi y dechreuodd fynd i Aelwyd Penllys.

Dywedodd, "O'n i'n dipyn bach yn iau na Linda, ond ro'n i'n mynd efo Lin i'r aelwyd ac yn practisio ar nos Sul. A dwi mor ddiolchgar mi ges i y fraint o fod yno, achos oedd o'n brofiad anhygoel. Yn bendant yn rhoi hyder i chi. O'n i'n ifanc, o'n i 'mond 11 pan wnes i ymuno."

Linda Griffiths, Lisa Angharad a Kathy GittinsFfynhonnell y llun, Kathy Gittins

Dewisodd Kathy gân gan Linda Griffiths i'r bennod hon o Beti a'i Phobol. Wrth sôn am y dewis, dywedodd,

"Tydan ni'n lwcus o Linda? Be' dwi'n licio am ganeuon Linda [ydy] mae yna wastad ryw stori bwysig iawn yn ei chaneuon hi.

Ac mae'r stori yn y gân hon am Naid a Taid Penrhos y ddwy ohonynt, David a Blodwen Griffiths.

"Roedd Taid Penrhos yn fachgen siawns, ac yn dlawd ofnadwy ac yn byw efo'i fam a'i nain. Mi ddaru o gwrdd â Blodwen, a mi ddaru nhw briodi.

"Mi aeth o fel gwas fferm i dyddyn bach tu allan i Bontrobert. Un diwrnod oedd o a'r ceffylau wedi bod yn gweithio ers oriau mân y bore tan hwyr yn nos, ac adre aethon nhw i gael swper. A phan oedden nhw'n cael swper, roedd y landlord wedi danfon neges i dd'eud 'reit dewch 'nôl i'r caeau at y gwair.'

"Ac fe dd'edodd David, 'na, yn wir, dwi a'r ceffyle wedi gwneud digon heddiw – ers chwech o'r gloch heddiw bore tan naw o'r gloch fin nos – 'dan ni ddim am ddod.'

"Wel, y bore trannoeth, mi ffendion nhw allan fod [y landlord] wedi'u llechio nhw allan."

Gyda chymydog caredig yn cymryd trugaredd ar y cwpl ifanc â "dwy lodes fech" ac un arall ar y ffordd, fe symudodd David a Blodwen i fwthyn bach tu allan i Bontrobert.

Yn o y buon nhw am flynyddoedd yn magu wyth o blant, nes y llwyddodd David i brynu fferm uwchben Meifod, Fferm Pen-bryn ac ar ôl hynny Fferm Penrhos.

Kathy yn ymweld ag AmsterdamFfynhonnell y llun, Kathy Gittins
Disgrifiad o’r llun,

Tair cenhedlaeth a ffrindiau gorau yn ymweld â Camilla yn Amsterdam: Kathy, Wini (merch Lisa), Lisa Angharad, Peggy (merch Camilla), Camilla, a Linda Griffiths