Bocsys Noa: 'Dwi isho 'neud bywyd yn haws i bawb'

Emma a Noa
- Cyhoeddwyd
Mae aros dy dro am apwyntiad yn gallu bod yn ddiflas – ond mae'n arbennig o heriol i blentyn awtistig, fel mae Emma Wyn o Borthmadog yn gwybod.
Mae ei phrofiad hi o aros gyda'i mab Noa am apwyntiad yn Ysbyty Gwynedd wedi arwain ati'n creu 135 o focsys synhwyraidd i helpu plant awtistig eraill.
"Ges i'r syniad o 'neud y bocsys ar ôl bod mewn apwyntiad yn Ysbyty Gwynedd – 'nes i feichio crio yn y car wedyn," meddai Emma, sy'n nyrs gymunedol, wrth Cymru Fyw.
"Doedd Noa ddim yn gallu aros, oedd o'n stryglo'n ofnadwy ac o'n i'n meddwl bydd rhaid i fi 'neud rhywbeth i 'neud bywyd yn haws i ni a theuluoedd eraill.
"O'n i jest yn meddwl 'fedra'i ddim 'neud hyn ymhob apwyntiad'.
"O'n i'n torri 'nghalon wedyn ac o'n i ddim isho i un rhiant arall i deimlo fath â 'nes i pan o'n i'n crio yn y car."

Bocsys Noa
Erbyn hyn mae Emma, gyda help Noa, wedi creu 135 o focsys sy' wedi cael eu rhannu rhwng bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, deintyddfa a meddygfa lleol, clwb pêl-droed Wrecsam, Venue Cymru a Stadiwm Principality.
Meddai Emma: "Dwi'n trio cael cymaint o focsys allan yna â phosib."

Emma a Noa yn cyrraedd STōK Cae Ras Wrecsam gyda'u bocsys arbennig
Cafodd Noa, sy'n 10 oed, diagnosis o awtistiaeth yn 2020.
"Doedd Noa ddim yn deall bod o angen eistedd ac aros – bob tro 'da ni'n mynd i apwyntiad mae'n meddwl bod o'n cael mynd yn syth i fewn heb aros.
"Oedd Noa yn taflu ei hun ar lawr, oedd o'n trio dwyn ffon dyn bach oedd yn eistedd ar ymyl ni – oedd o jest yn wyllt, yn rhedeg rownd.
"O'n i jest yn teimlo pan o'n i yna bod pobl eraill yn edrych arno fi a dwi'n cofio clywed dynes yn dweud, 'pam dy' hi ddim yn dweud wrth yr hogyn bach i eistedd lawr a bod yn ddistaw?'
"Dydy o ddim mor hawdd â hynna."
Er mwyn helpu teuluoedd yn yr un sefyllfa, mae Emma'n creu bocsys gyda theganau i bob oedran.
Meddai: "Mae 'na stress balls, gwynebau hapus, trist, blin a gwyneb mewn poen fel bod plant dilafar yn gallu dangos i'r nyrs neu doctor sut maen nhw'n teimlo.
"Hefyd mae 'na fidget toys bach, pethau sy'n gwneud sŵn... maen nhw'n cadw'r plant yn brysur tra bod nhw yn aros. Ers Covid does 'na ddim teganau allan i blant."

Cerdd Gruffudd Owen
Ac ar bob bocs mae 'na gerdd gan y bardd Gruffudd Owen.
"Dwi ddim yn grêt yn sgwennu ac oedd gen i syniad beth o'n i isho rhoi yn y gerdd," meddai.
"O'n i isho i rieni eraill wybod bod nhw ddim ar ben ei hun ac fod 'na gefnogaeth o gwmpas."
Wedi i Emma roi neges ar Facebook i ofyn i rywun ysgrifennu cerdd ar gyfer bocsys Noa, dyma Gruffudd Owen yn anfon neges ati'n cynnig ei help.
Meddai Emma: "Dyma fo'n dweud, 'nai wneud, dim problem. Dwi'n deall.'
"A dyma'r gerdd ges i yn ôl a 'nes i grio eto achos o'n i ddim yn coelio fod y gerdd mor hyfryd. Mae hwnna'n golygu lot."
Ynghyd â'r gerdd mae plant o ysgol leol i blant efo anghenion ychwanegol wedi dylunio'r galon a'r sêr ar bob bocs ac mae Noa wedi ysgrifennu ei enw.
"Mae bob un plentyn yn nosbarth Noa wedi creu calon neu seren – mae o mwy personol i Noa a'i ffrindiau bach o a'u dyfodol nhw," meddai Emma.
"Mae o wrth ei fodd. Ac mae o'n dweud bod o'n helpu plant."

Mae Emma wedi derbyn negeseuon gan bobl sy' wedi defnyddio'r bocsys tra'n aros mewn llefydd gwahanol.
Meddai: "Dwi wedi cael gymaint o negeseuon gan rieni sy' wedi defnyddio'r bocsys – mae 'na focsys wedi mynd i'r adran frys yn Ysbyty Gwynedd hefyd ac mae staff wedi dweud bod nhw wedi helpu nhw i helpu'r plant.
"O'n i ddim yn disgwyl fyddai'r bocsys bach 'ma yn helpu cymaint o deuluoedd.
"Dwi'n nyrs gymuned so dwi'n deall o ochr cael plentyn efo anghenion ychwanegol a dwi'n deall pa mor brysur ydyn ni yn y gwaith hefyd.
"Mae'n helpu'r doctoriaid, y nyrsys a'r rhieni.
"Dwi bach yn overwhelmed am mod i ddim yn disgwyl i'r bocsys fod mor positif. Mae wedi mynd mor bell – mae o'n lyfli."
Mae Emma wedi bod yn codi arian ers saith mlynedd, gan gychwyn yn codi arian i'r gymuned ond erbyn hyn mae'n codi arian ar gyfer awtistiaeth ac ar gyfer bocsys Noa.
"Dwi wedi codi £35,000 hyd yma," meddai. "Dwi jest yn edrych ar y dyn bach ac mae o'n inspiration a dwi isho 'neud gwahaniaeth rŵan i ddyfodol Noa a'i ffrindiau.
"Dwi'n trio 'neud y byd 'ma mwy ASD friendly (Autism spectrum disorder) a thrio helpu lle fedra i.
"Dwi wrth fy modd."
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd13 Ionawr