Hanes Joseph Jenkins, y swagman o Dregaron

Joseph Jenkins
- Cyhoeddwyd
Glywsoch chi erioed am Joseph Jenkins o Dregaron?
Mae'r dyddiaduron a'i cadwodd am dros hanner can mlynedd yn adnabyddus i rai yma yng Nghymru, ond maen nhw hyd yn oed yn fwy adnabyddus draw yn Awstralia.
Yn nhalaith Victoria y treuliodd 25 o flynyddoedd, ar ôl gadael Tregaron ddiwedd yr 1860au am fywyd newydd ben draw'r byd, gan gadw cofnod manwl o'i anturiaethau fel swagman.
Codi pac
Yn 1868, roedd Joseph Jenkins yn ffermio ger Tregaron. Wedi ei eni ar fferm Blaenplwyf, Abermeurig, Dyffryn Aeron, yn 1818, roedd wedi symud gyda'i wraig a'u plant i ffermio Fferm Trefecel ddiwedd yr 1840au.
Roedd yn cael ei ystyried yn berson pwysig yn yr ardal, meddai Cyril Jones, sy'n ymddiddori yn hanes Joseph:
"Daeth e'n ddylanwadol yn Nhregaron, yn ymgyrchu dros addysg, roedd e'n warden yn yr eglwys, roedd e'n flaengar mewn sawl agwedd ar gymdeithas yn y fan honno."

Arhosfa Blaenplwyf - ymgyrchodd Joseph Jenkins dros sicrhau fod rheilffordd newydd Manchester and Milford yn rhedeg i Aberaeron. Cafodd Arhosfa Blaenplwyf ei sefydlu ar dir y fferm ble y cafodd ei fagu
Ond eto, doedd bywyd ddim yn fêl i gyd. Roedd bywyd yn anodd, hyd yn oed i ddyn uchel ei barch fel Joseph.
Yn ystod etholiadau 1859 ac 1868, achosodd ei ddaliadau gwleidyddol drafferthion gyda'i deulu, eglurodd Cyril.
"Roedd ei deulu e yn hanu o'r ardal 'na, Rhyddfrydwyr mawr oeddyn nhw. Canfasiodd e dros Hywel Nanteos, y Tori, ac odd hynny yn newid mawr. Roedd hynny'n amhoblogaidd gan y teulu.
"Roedd e hefyd yn hoff iawn o'r ddiod – falle fod hynny wedi bod yn broblem iddo fe."
Mae sïon hefyd fod Joseph hefyd mewn trafferthion ariannol, ac roedd yn anhapus yn ei briodas.
Roedd bywyd yn dechrau mynd yn drech nag ef. Felly yn Rhagfyr 1868, ag yntau yn 50 oed, cododd ei bac a dianc i Awstralia, gan adael ei wraig, Betty, a'u hwyth o blant ar ôl.

Cloddio am aur yn Ballarat, Victoria yn yr 1850au - roedd Ballarat yn un o'r canolfannau cloddio aur pwysicaf, ac fe deithiodd nifer o Gymry yno. Flynyddoedd yn ddiweddarach, roedd Joseph yn cael llwyddiant cyson yn yr Eisteddfod yn y dref am ei farddoniaeth
Cymerodd y siwrne dri mis o Lerpwl ar long SS Eurynome, a glaniodd yn Port Phillip yn ne ddwyrain y wlad ym mis Mawrth 1869.
A hithau yn gyfnod y gold rush, roedd llawer o bobl wedi heidio i Awstralia yn y cyfnod yno hefyd, ond doedd gwaith ddim yn hawdd i'w ffeindio.
Ar ôl ychydig o wythnosau ym Melbourne, penderfynodd bod ganddo ddim dewis ond dod yn 'swagman' – person a oedd yn teithio o fan i fan yn chwilio am waith, gyda'i holl eiddo ar ei gefn.
Roedd ei swag yn cynnwys y Beibl Cymraeg, llyfrau barddoniaeth a'i ddyddiadur; roedd wedi bod yn cadw dyddiadur yn ffyddlon ers iddo fod yn 21 oed.
Ac yno, o amgylch talaith Victoria, y bu'n byw, teithio a gweithio am y 25 mlynedd nesaf.
Dyddiaduron
Rydyn ni'n gwybod gymaint am fywyd Joseph Jenkins oherwydd iddo gadw ei dyddiaduron manwl am bron i 60 mlynedd.
Dim ond yn yr 1970au, y daeth pobl i wybod am anturiaethau Joseph Jenkins, pan ddaeth ei deulu o hyd iddyn nhw mewn atig, ac fe gawson nhw eu cyhoeddi gan ei ŵyr, Dr William Evans.
Mae diddordeb mawr yn y dyddiaduron oherwydd mai dyma'r cofnod mwyaf cynhwysfawr o fywyd crwydryn yn Awstralia sydd yn bodoli.
"O'dd pob un o'r swagmen eraill, i bob pwrpas, yn anllythrennog – fe yw'r unig un sydd wedi cofnodi hanes y swagmen," eglurodd Cyril Jones. "Mae'n wyrthiol ei fod e wedi gallu cadw dyddiadur o dan y fath amgylchiadau.
"Bob nos yn dod i ben ag ysgrifennu yn ei ddyddiadur; roedd e'n darllen papurau newydd, rhoi ei farn ar faterion y dydd. Nid jest cadw rhyw dudalen bob dydd; bydde fe'n ysgrifennu'n fanwl iawn iawn am beth oedd yn digwydd."
Er mai yn Saesneg oedd y dyddiaduron, roedd pytiau o Gymraeg yn ymddangos ynddyn nhw hefyd, fel tribannau, englynion a chywyddau roedd wedi eu hysgrifennu.

Tudalennau o un o 58 dyddiadur Joseph Jenkins
Mae'r dyddiaduron yma yn rhoi cipolwg o fyd y Cymro draw allan yn Awstralia, a'r hyn roedd yn dod ar eu traws.
"Roedd e'n pledio achos y brodorion oedd yn colli tir bryd hynny i'r dyn gwyn. Roedd e hefyd yn pledio achos ei gyd-swagmen, ac yn sôn fel ro'n nhw yn cael eu camdrin gan y cyflogwyr. O'dd ei ddyddiaduron e'n llawn o'r pethe yma.
"Oherwydd hynny, mae e'n enwog yn Awstralia."
Pan holodd cydweithiwr i Joseph pam ei fod mor benderfynol o gadw dyddiadur, ei ymateb oedd: "This shall be my monument, for better or worse".
Yn sicr, llwyddodd yn hynny o beth; mae'r 25 o dyddiaduron sy'n sôn am gyfnod Joseph yn Awstralia, wedi eu prynu gan Lyfrgell Talaith Victoria ym Melbourne, ac yn cael eu hastudio gan bob plentyn ysgol.
Mae'r 33 dyddiadur arall a ysgrifennodd Joseph nawr yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Nôl i Gymru fach
Erbyn diwedd 1894, roedd Joseph wedi penderfynu troi am adref i Ddyffryn Aeron. Roedd wedi clywed am farwolaeth nifer o'i deulu dros y blynyddoedd, oedd wedi bod yn anodd iddo ag yntau mor bell i ffwrdd, a gan ei fod erbyn hynny yn ei 70au, roedd yn teimlo'n rhy hen i weithio.
Roedd bywyd swagman yn un anodd, ac roedd wedi gadael ei ôl arno. Doedd ei deulu prin yn ei adnabod pan ddaeth adref yn Ionawr 1895, ar ôl siwrne oedd wedi cymryd lawer llai na'r daith draw i Awstralia 25 mlynedd ynghynt, wrth i'r llong stêm hwylio drwy Gamlas Suez.
Ond er fod yr hiraeth a bywyd caled Awstralia wedi ei ddenu nôl adref, doedd hi ddim yn hawdd ail-gydio yn ei hen fywyd yn Nhregaron.
Er ei fod wedi bod ysgrifennu llythyrau atyn nhw yn gyson dros y blynyddoedd, roedd wedi colli adnabod ar ei blant, ac roedd tensiynau rhyngddo â'i wraig, Betty.
Roedd Joseph wedi llwyddo - ar y cyfan - i aros yn sobor pan oedd yn Awstralia, ond roedd y demtasiwn yn ormod unwaith iddo ddychwelyd adref i Gymru, ac aeth yn ôl i'w hen arferion.
Bu farw dair blynedd ar ôl dychwelyd, ym Medi 1898, a'i gladdu yn Llanwnnen.

Cofeb i Joseph Jenkins yn Maldon, ger Melbourne
Yn 1994, cafodd plac ei ddadorchuddio yn nhref Maldon, ger Melbourne i'w goffáu a nodi canrif ers iddo adael Awstralia.
Hen hen hen nai
Un sydd â diddordeb mawr yn hanes Joseph Jenkins yw'r cyflwynydd a'r cynhyrchydd Radio Cymru, Terwyn Davies, sy'n ddiweddar wedi dysgu ei fod yn perthyn i'r dyddiadurwr crwydrol drwy wneud prawf DNA, fel y dywedodd ar Raglen Aled Hughes:
"Ffeindion ni mas bod Joseph Jenkins yn hen hen hen ewyrth i fi. Ei frawd Gruffudd yn hen hen hen dad-cu i fi.
"Ges i fy magu ar dyddyn Blaenplwyf Lodge, ond lle oedd Joseph Jenkins a'i deulu wedi cael eu magu oedd yn y ffarm drws nesa' i ni, sef ffermdy Blaenplwyf.
"Pan o'n i'n blentyn, fues i falle'n troedio'r un caeau a'r un hen reilffordd lle falle fuodd Joseph Jenkins a'i deulu wedi cerdded ac wedi chwarae hefyd – dwi'n meddwl mai hwnna sydd wedi chwalu fy mhen i go iawn.
"Dwi'n falch iawn o'r cysylltiad, mae'n rhaid dweud."

Blaenplwyf Lodge, lle magwyd Terwyn, sydd drws nesaf i Fferm Blaenplwyf, lle ganwyd Joseph
Felly oes gan Terwyn awydd dilyn esiampl ei berthynas enwog rhyw ddydd, a theithio draw i ochr arall y byd?
"Mae'n codi chwant arna i, ishe mynd i Awstralia i weld y lle olaf lle o'dd e'n byw, yn Maldon.
"Mae e'n enwocach yn Awstralia nag yw e yn y wlad yma. Mae ei waddol e'n enfawr yna.
"Un diwrnod, falle, fe neidia i ar yr awyren i ddilyn ôl i draed e!"
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd9 Ionawr
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd19 Ionawr