Rhan o'r A470 i ailagor wythnos yma ar ôl tri mis o waith

tarmacio'r ffordd yn nhalerddigFfynhonnell y llun, Eleri Humphreys
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gwaith o atgyweirio a llenwi'r twll yn y ffordd wedi'i orffen ar yr A470 ger Talerddig

  • Cyhoeddwyd

Bydd rhan o'r A470 yn y canolbarth sydd wedi bod ar gau am 12 wythnos yn ailagor ddiwedd yr wythnos, yn dilyn gwaith ffordd sylweddol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd yr A470 rhwng Talerddig a Dolfach yn ailagor, yn ôl y cynllun, ar 11 Ebrill.

Ym mis Ionawr, dechreuodd y gwaith ar atgyweirio twll yn Nhalerddig gyda disgwyl iddo gymryd hyd at 12 wythnos.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, roedd y gwaith yn cynnwys atgyweiriadau cymhleth a helaeth i'r wal gynhaliol uwchben Afon Iaen gyfagos ac roedd angen cau'r ffordd yn llawn rhwng 20 Ionawr ac 11 Ebrill.

Llenwi'r twll ger yr afon yn Nhalerddig
Disgrifiad o’r llun,

Mae gweithwyr wedi gorfod creu strwythur newydd o dan y ffordd, ger yr afon, a'i lenwi dros gyfnodau.

Bydd goleuadau traffig dwyffordd nawr yn cael eu hailosod ar y safle tra bod rhwystr diogelwch yn cael ei osod.

Bydd yr holl fesurau rheoli traffig wedi'u symud o'r safle erbyn 30 Ebrill, neu cyn hynny os oes modd, yn ôl y llywodraeth.

lori yn styc yn Bont Dolgadfan
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai gyrwyr wedi bod yn anwybyddu arwyddion sydd wedi'u codi i geisio atal problemau

Mae'r rhan hon o'r brif ffordd rhwng y gogledd a'r de wedi bod ynghau ers diwedd Ionawr, ac fe gafodd cyfnod y gwaith ei ymestyn er mwyn galluogi gwyriad mawr o'r system ddŵr.

Mae dargyfeiriad o 70 milltir wedi bod yn achosi problemau dirfawr i bobl leol sy'n byw mewn pentrefi cyfagos.

Mae trigolion lleol yn dweud eu bod wedi gweld cynnydd mewn cerbydau a loriau yn defnyddio ffordd gefn fechan rhwng Talerddig a Phont Dolgadfan er mwyn ceisio osgoi'r dargyfeiriad swyddogol.

Yn wreiddiol roedd y gwaith atgyweirio rhwng Talerddig a Dolfach fod i ddigwydd ym mis Hydref, ond cafodd ei ohirio wedi'r gwrthdrawiad rhwng dau drên yn y canolbarth.

Ym mis Tachwedd 2023 fe gwympodd rhan o wal o dan yr A470 ger Talerddig i mewn i afon, gan adael twll ar ochr y ffordd.

Cafodd y ffordd ei chau am tua wythnos bryd hynny, wrth i fesurau dros dro gael eu rhoi mewn lle cyn caniatáu i un lôn agor gyda goleuadau traffig.

twll yn y ffordd ger talerddig
Disgrifiad o’r llun,

Ym mis Tachwedd 2023 fe gwympodd rhan o wal o dan yr A470 ger Talerddig i mewn i afon, gan adael twll ar ochr y ffordd.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Ken Skates, ei fod yn "deall y problemau mae'r gwaith hwn wedi'u hachosi" ac fe hoffai "ddiolch i fodurwyr a thrigolion lleol am eu hamynedd wrth i'r gwaith gael ei wneud".

"Fodd bynnag, roedd yn hanfodol bod y gwaith hwn yn cael ei wneud ar yr adeg hon er mwyn sicrhau y gall y ffordd barhau i fod ar agor yn y blynyddoedd i ddod.

"Hoffwn i hefyd ddiolch i Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru a'u cadwyn gyflenwi am eu gwaith caled i sicrhau bod y gwaith yn cael ei gwblhau yn ôl yr amserlen ac yn lleihau lefel y tarfu cymaint â phosibl."

Pynciau cysylltiedig