'Pobl yn cysylltu drwy gomedi yn Gymraeg'

Harri Dobbs yn perfformio gyda Caryl Burke ar y llwyfan
- Cyhoeddwyd
Mae'r sîn gomedi Gymraeg yn mynd o nerth i nerth, yn ôl comedïwr ifanc o Gaerffili sy' newydd gael ei ddewis ar gyfer Comedy Lab Cymru 2025.
Mae'r cynllun yn meithrin talent newydd ym myd comedi ac mae'r comedïwr dwyieithog Harri Dobbs yn arbennig o falch o'r cyfle i greu cynnwys ar gyfer S4C.
Meddai Harri, sy'n 23 oed: "Mae'r sîn comedi Gymraeg wedi tyfu gymaint hyd yn oed ers i fi ddechrau.
"Mae pawb sy'n neud comedi yn Gymraeg mor lyfli ac mor neis pan yn cael rhywun newydd (i'r sîn).
"Mae gymaint mwy o bobl yn neud comedi Cymraeg nawr. Mae pobl yn gofyn wrtha'i am gomedi yn y Gymraeg, 'oes na gynulleidfa?'
"Oes, mae 'na - y gigs Cymraeg dwi'n neud yw'r rhai mwyaf. Mae pobl yn edrych amdani nhw. Mae rhyw 30 gig Saesneg yr wythnos yng Nghaerdydd.
"Ond yn y gigs Cymraeg ti'n gweld yr un wynebau bob tro ti'n mynd ac mae'n teimlo mor sbeshal ac mae'n teimlo fel bod y gynulleidfa rili ishe bod 'na. Ti'n cael pobl o ar draws y tiers o gomedi oherwydd fod ddim gymaint yn neud e i gymharu gyda pobl sy'n neud comedi yn y Saesneg.
"Mae'n neis gweld pobl yn cysylltu drwy'r Gymraeg fel 'na."

Harri gyda rhai o'i gyd-gomediwyr: Gary Slaymaker, Harri, Dan Thomas, Alun Saunders a Iestyn Gwyn Jones.
Mae Harri yn perfformio yn y Gymraeg a'r Saesneg ac yn dweud fod yr hiwmor ychydig yn wahanol yn y Gymraeg gyda mwy o brofiadau cyffredin yn debygol mewn cynulleidfa Cymraeg: "Mae'r hiwmor yn y Gymraeg yn wahanol achos ti'n gallu bod llawer yn fwy specific. Mae llawer o bobl yn y gynulleidfa wedi cael bywyd mwy tebyg."
Ar ôl perfformio mewn nifer o gigs standyp mewn gwyliau yn Aberystwyth ac hefyd mewn clybiau yng Nghaerdydd, mae Harri'n teimlo mai Comedy Lab yw'r cam nesaf yn ei yrfa: "Dwi wedi bod yn neud comedi ers tair mlynedd ac mae hwn yn teimlo fel y cam nesaf a teimlo fel mod i'n symud rhywle nawr.
"Ar ôl i fi orffen yn y prifysgol yng Nghaerdydd o'n i'n edrych ar comedi fel hobi a meddwl fi'n gallu neud mwy gyda hyn a dechrau trin e'n fwy proffesiynol a mwynhau e.
"Mae'n hwyl ac mae'n mynd i lefydd."

Comedy Lab
Ar ôl cyfnod o weithio yn y Glee Club ym Mae Caerdydd cafodd gyfle i neud standyp yno: "Dwi ddim yn dweud 'na' i bethau ac nes i jest neud gig fan 'na ac oedd e'n mynd yn dda a dwi jest wedi cario ymlaen."
Erbyn hyn mae Harri wedi neud dros 50 gig ac mae nawr yn cael cyfle i weithio gyda mentor fel rhan o gynllun Comedy Lab ac yn cymryd rhan mewn sesiynau i ddatblygu syniadau.
Meddai Harri, sy' ar hyn o bryd yn ysgrifennu sioe standyp awr o hyd: "Mae mor gyffrous. Dwi'n teimlo ychydig fel dylwn i ddim fod yma ond ni'n neud y sesiynau nawr a dwi'n gweld pobl dwi'n edrych lan atynt yn clywed syniadau fi a bod yn gyffrous amdani nhw sy'n neud i fi deimlo mor dda.
"Dwi'n teimlo mor lwcus i fod ar y rhaglen gyda pobl mor anhygoel."
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2024
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2024