40 mlynedd ers i Hywel Davies ennill y Grand National
- Cyhoeddwyd
Mae geirfa ar ddiwedd yr erthygl i bobl sy'n dysgu Cymraeg.

Roedd Hywel Davies yn joci am 16 mlynedd, gan ymddeol yn 1994
Mae hi'n wythnos y Grand National, y ras geffylau enwog sy'n cael ei chynnal bob blwyddyn ar Gae Ras Aintree ger Lerpwl.
40 mlynedd yn ôl Cymro Cymraeg o Aberteifi, Hywel Davies oedd yn fuddugol, a hynny ar gefn ceffyl roedd y bwcis wedi ei ddiystyru - Last Suspect, a gafodd siawns 50/1 o ennill.
Ar ddydd Mawrth, 2 Ebrill, siaradodd Hywel ar raglen Dros Ginio ar BBC Radio Cymru, am ei fuddugoliaeth enwog.
"Glywes i fod nhw am dynnu'r ceffyl mas o'r ras, felly fe redes i i'r swyddfa a gofyn i Capten Tim Foster, hyfforddwr y ceffyl, i'w gadw e yn y ras.
"Dywedodd e fod o ddim am ailfeddwl y peth, ac os o'n i am rasio'r ceffyl bydda rhaid imi siarad gyda'r Duges."

Hywel ar y chwith. Enillodd Cymro arall, Neale Doughty, y ras yn Grand National 1984
Anne Grosvenor, Duges Westminster oedd perchennog Last Suspect.
"'Well young man what is the problem?' meddai hi. 'Nes i ddweud wrthi fod rhaid ni redeg y ceffyl 'ma, a dywedodd hi 'If you want to break your neck, you carry on'.
"'Nes i ofyn 'does that mean we can go?' a dywedodd hi 'yes', ac felly buodd hi."
Hyderus o ennill?
Ydy'r jocis yn mynd i'r ras yn hyderus o gael y fuddugoliaeth?
"Rydych chi byth yn meddwl bo' chi'n mynd i ennill y ras. Os fysech chi'n gofyn i bob joci sydd wedi ennill y ras os oedd e'n meddwl bod e am ennill hi, alla i addo chi bydd bob un yn dweud 'na' does dim gobaith gan nhw o ennill – hyd yn oed y ffefryn!
"Ond rhyw bythefnos wedi'r ras ma fe'n sinco mewn i'ch pen chi bod chi wedi ennill y Grand National."

Enillodd Hywel Davies a Last Suspect y ras mewn amser o naw munud a 42.7 eiliad
Newid byd?
A wnaeth ennill un o rasys ceffylau enwoca'r byd newid bywyd Hywel yn sylweddol?
"Mae e'n newid dy fywyd di yndi, yn enwedig yn Aberteifi.
"Rwy'n siopa ar ran fy mam sy'n 95 mlwydd oed, a pan af i i Tesco, yr hyn rwy'n clywed dros y lle yw 'Celebrity on aisle five!'"
Felly, pwy mae Hywel meddwl fydd yn ennill eleni?
"Mae'r Gwyddelod wedi gwneud mor dda, ac mae'r ceffylau gorau i gyd yn Iwerddon, gwnaethon nhw ennill popeth yn Cheltenham ym mis Mawrth. Mae'r caeau yn Aintree'n grêt ar gyfer y Gwyddelod.
"Ond wna i roi dau geffyl o'r wlad yma i chi – Iroko, ceffyl J P McManus sy'n cael ei hyfforddi gan Oliver Greenall, a Kanddo Kid, ceffyl Paul Nicholls."
Geirfa
Enwog / Famous
Cynnal / Held/staged
Fuddugol / Winning
Diystyru / Disregarded
Siawns / Chance
Fuddugoliaeth / Victory
Fe redes i / I ran
Hyfforddwr / Trainer
Ailfeddwl / Rethink
Duges / Duchess
Perchennog / Owner
Hyderus / Confident
Gaddo / Promise
Gobaith / Hope
Ffefryn / Favourite
Bythefnos / Fortnight
Sylweddol / Significant
Yn enwedig / Especially
Gwyddelod / The Irish
Iwerddon / Ireland
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd19 Mawrth
- Cyhoeddwyd14 Mawrth
- Cyhoeddwyd4 Mawrth