Hunanladdiad dyn o Fôn wedi cael effaith 'ar bawb oedd yn ei nabod'

Kale ThomasFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Kale Thomas yn byw gyda seicosis ac roedd yn awyddus i siarad yn agored er mwyn helpu eraill

  • Cyhoeddwyd

Rhybudd: Gallai'r cynnwys isod beri gofid i rai

Mae mam o Ynys Môn a gollodd ei mab wedi disgrifio'r effaith gafodd ei farwolaeth ar y rhai oedd yn ei nabod.

Roedd Kale Thomas yn 20 oed pan gymerodd ei fywyd ei hun yn 2018.

Ar ddiwrnod atal hunanladdiad y byd mae ei fam, Kerry Davies-Jones, wedi croesawu'r ffaith bod gwasanaeth cwnsela newydd yn cael ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd y byddai gwasanaeth o'r fath wedi bod yn "anhygoel" iddi hi a'i theulu yn dilyn marwolaeth ei mab.

Disgrifiad o’r llun,

Fe gollodd Kerry Davies-Jones ei mab i hunanladdiad yn 2018

Mae Kerry Davies-Jones yn byw yn ardal Amlwch, Ynys Môn.

Bu farw ei mab Kale Thomas yn 2018, yn dilyn blynyddoedd o frwydro gyda'i iechyd meddwl.

"Mi oedd Kale yn hapus, go lucky, wrth ei fodd yn pysgota, mi oedd o'n calm a neis ac yn ffrindiau efo pawb," meddai Ms Davies-Jones.

"Mi oedd o'n gweithio yn y merchant navy ac wedyn mi ddatblygodd o seicosis. Mae Seicosis yn chemical inbalance yn yr ymennydd, felly mi oedd o'n clywed lleisiau, gweld pethau."

Eglurodd fod ei mab yn derbyn cymorth, ond roedd hi'n gyfnod heriol iddyn nhw fel teulu.

"Am ryw ddwy flynedd dwi'n meddwl, mi oedd yn cael help gan dîm seiciatrig cymunedol Ynys Môn, oedd yn wych. Mi aethon ni i Ysbyty Gwynedd ychydig ar ôl y Nadolig (2018) i drio cael o mewn, gan fod Kale rili ddim yn dda."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Kale yn rhannu fideos o'i brofiad o fyw gyda seicosis er mwyn ceisio helpu eraill

"Mi gafodd Kale ei anfon adra. Mi oeddwn i'n crïo a Kale yn crïo, mi arhoson ni'n effro drwy'r nos.

"Mi aeth Kale i nôl dillad a chael cawod yn ei fflat o. Oni'n meddwl fod Kale dros yr hurdle, achos fe wynebodd o lot o hurdles. Ond na - mi gymrodd o'i fywyd ei hun."

Cafodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gais am ymateb, ond doedden nhw ddim am wneud sylw.

Roedd Kale yn gwneud fideos yn cofnodi ei siwrne gydag iechyd meddwl er mwyn ceisio helpu eraill oedd yn rhannu'r un profiadau

Mae ei fam bellach yn awyddus i barhau i rannu ei neges bositif a chael pobl i siarad yn agored am eu hiechyd meddwl i geisio atal hunanladdiad.

'Mae angen siarad'

Mae ffigyrau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau yn dangos cynnydd yn nifer y marwolaethau yn sgil hunanladdiad yng Nghymru yn ystod 2023.

Wrth ymateb i wasanaeth cynghori cenedlaethol newydd y llywodraeth, dywedodd Ms Davies-Jones y byddai gwasanaeth o'r fath wedi bod yn "anhygoel" iddi hi pan gollodd hi ei mab.

"Mi fyddai wedi bod yn dda, yn enwedig i fy mhlant i, Ellie ac Ollie. Dydi Ellie ddim yn gallu mynd allan achos mae'n brifo.

Ychwanegodd: "Mae angen siarad, mae 'na stigma i hunanladdiad. Mae pobl yn back off.

"Mae'n knock on effect ar bawb a phawb oedd yn nabod Kale.

"Mi nath y gymuned godi arian i dalu am gynhebrwng, cynnal munud o dawelwch i Kale yn Amlwch FC, mae pawb yn nabod Kale a phawb yn drist iawn."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Adrian Williams yn paratoi at gerdded llwybr arfordir Ynys Môn i godi ymwybyddiaeth

Er mwyn codi ymwybyddiaeth ac i annog pobl i siarad, mae ffrind i Kerry Davies-Jones, Adrian Williams yn bwriadu cerdded llwybr arfordir Ynys Môn.

Mae'r llwybr tua 124 o filltiroedd, a bwriad Mr Williams ydi ei gerdded mewn 48 awr.

"'Dwi isio neud y challenge yma o gerdded rownd Ynys Môn mewn 48 awr, mae pobl yn meddwl mod i'm yn gall, ond 'dw i isio trio'i neud o. Di o'm yn challenge fel arall," meddai.

"'Dw i isio'i neud o i godi ymwybyddiaeth i atal hunanladdiad, fy motto i ydi 'It's nice to be nice' a cheisio helpu pobl sy'n mynd drwy amser drwg, a dyna fwriad hyn.

"'Dwi isio i bobl ddallt fod pawb weithiau yn mynd drwy amser drwg, 'dw i wedi colli lot o ffrindiau drwy hyn oedd heb siarad. Falla 'sa nhw wedi siarad, falla fysa nhw dal yma, dwi'm yn gwybod."

Disgrifiad o’r llun,

Mae bywyd yn gallu bod "yn galed" pan mae rhywun yn colli rhywun i hunanladdiad yn ôl Gwyn Augustus

I nodi Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd, mae Llywodraeth Cymru yn lansio gwasanaeth cynghori cenedlaethol i geisio helpu pawb sydd wedi'u heffeithio gan hunanladdiad, a chanllawiau newydd ar gyfer asiantaethau a sefydliadau.

Mae'r gwasanaeth a'r canllawiau wedi'u dylanwadu gan anghenion a phrofiadau pobl sydd mewn profedigaeth yn sgil hunanladdiad yng Nghymru.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Meddwl, Sarah Murphy ei bod hi'n "hanfodol bod pawb sydd wedi'u heffeithio yn gallu cael gafael ar gymorth tosturiol pan fyddan nhw ei angen".

Gwyn Augustus ydi swyddog cyswllt arweiniol y gwasanaeth cynghori newydd.

Dywedodd mai bwriad y gwasanaeth ydi "rhoi cymorth i deuluoedd yn ystod yr amser cynnar ar ôl marwolaeth ac yn ystod y brofedigaeth mae teulu yn ei gael.

"Ry'n ni yma i gymryd galwadau ac i drio ffeindo ffordd i geisio symud ymlaen gyda'r teulu yn ystod yr oriau a'r diwrnodau cynnar ar ôl y farwolaeth.

"Mae'n hollol bwysig fod ni'n rhoi cymorth i'n gilydd yn ystod yr amser caled hwn, mae bywyd yn gallu bod yn ddigon caled o ddydd i ddydd, ond pan mae rhywun yn cael profedigaeth o hunanladdiad, mae bywyd yn gallu bod yn galed."

Os ydych chi’n teimlo pryder neu anobaith ac angen cymorth, gan gynnwys cymorth brys, mae rhestr o sefydliadau a all helpu ar gael ar bbc.co.uk/actionline