'Llai o gleifion canser yn hapus gyda lefelau staffio'r GIG'

Mae ffigyrau Macmillan yn awgrymu mai 62% o gleifion canser sy'n credu bod digon o staff y GIG ar ddyletswydd
- Cyhoeddwyd
Mae elusen yn dweud bod nifer y bobl â chanser yng Nghymru, sy'n nodi bod digon o staff y GIG ar ddyletswydd i ddiwallu eu hanghenion, wedi gostwng i'r lefel isaf ers i gofnodion ddechrau ym mis Mehefin 2022.
Mae ffigyrau Macmillan hefyd yn awgrymu bod gostyngiad sylweddol wedi bod yn y gyfran sy'n dweud iddyn nhw dderbyn triniaeth oedd yn bersonol iddyn nhw.
Cafodd y data ei ryddhau ddydd Mawrth gan yr elusen, sy'n darparu cefnogaeth i gleifion canser.
Mae menyw ifanc o Ynys Môn sydd wedi bod yn derbyn triniaeth wedi canmol ei gofal ar y cyfan, ond yn dweud y byddai'n hoffi gweld mwy o gefnogaeth i gleifion ar ôl derbyn triniaeth.
Cafodd Daisy ddiagnosis o lymffoma Hodgkin fis Chwefror, a hithau'n 17 oed.
Dywedodd fod y newyddion yn "sioc enfawr".

Cafodd Daisy ganu cloch ysbyty fis Awst i nodi ei bod yn rhydd o ganser
"O'n i byth yn disgwyl cael diagnosis fel 'ma, ond 'naeth o ddigwydd a nes i gael trwyddo fo," meddai ar Dros Frecwast.
"O'dd o'n strach, ond dwi yma rŵan."
Bellach wedi cael canu cloch yr ysbyty i nodi ei bod yn rhydd o ganser ers mis Awst, cyn hynny roedd Daisy yn gorfod teithio i Lerpwl yn aml er mwyn derbyn triniaeth.
Roedd y driniaeth cemotherapi yn anodd, meddai, ond dywedodd ei bod wedi "gweithio yn dda" iddi.
Dywedodd fod y gefnogaeth y derbyniodd gan ei mam, gan wahanol elusennau bach a gan Lisa - un o'i nyrsys - wedi bod yn "amazing".

Dywedodd Daisy fod "bywyd yn newid pob eiliad" yn ystod taith rhywun gyda chanser
Yn dilyn ei brwydr â chanser, mae Daisy bellach yn gobeithio mynd i weithio i'r gwasanaeth iechyd yn y dyfodol, er mwyn defnyddio ei phrofiad i helpu eraill.
"O'dd 'na gwpl o betha' o 'nhaith i - petha' ti methu dysgu rhywun i 'nabod - y reassurance 'na ma' rhywun eisiau. Dyna be' dwi eisiau 'neud."
Mae Macmillan eisiau gweld strategaeth newydd ar gyfer canser gan lywodraeth nesaf Cymru.
Dywedodd Daisy mai mwy o gefnogaeth ar ôl derbyn triniaeth y byddai hi'n hoffi ei weld yn y gwasanaeth, gan iddi "deimlo 'naeth pob dim just stopio" ar y pwynt hwnnw.
"Nes i gael canlyniadau'r sgan, o'n i'n cerdded trw'r drws ac o'dd o fatha: 'reit welai di mewn tri mis'.
"Wedyn doedd 'na ddim cefnogaeth. O'n i dal hefo psychologist fi, ond 'naeth nhw kind of just droppio fi."
Ychwanegodd Daisy fod "bywyd yn newid pob eiliad" yn ystod taith rhywun gyda chanser, a bod unigolyn ar ôl gorffen triniaeth yn gorfod mynd yn syth yn ôl i fywyd pob dydd.

Dywedodd Daisy fod cefnogaeth ei mam wedi bod yn anhygoel
Mae canfyddiadau Macmillan yn awgrymu fod 29% o'r bobl sydd â chanser yng Nghymru naill ai heb gael cefnogaeth nyrs canser arbenigol yn ystod eu gofal, neu fod y gefnogaeth gan nyrs canser arbenigol ddim yn ddigon i ddiwallu eu hanghenion.
Dyw'r ffigwr yma, yn ôl arolwg yr elusen o fis Ionawr 2025, heb ddangos unrhyw welliant ers o leiaf mis Mehefin 2022.
Mae'r ffigyrau hefyd yn awgrymu bod cyfran y bobl â chanser yng Nghymru a ddywedodd fod digon o staff y GIG ar ddyletswydd i ddarparu'r gofal a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt wedi gostwng i 62%.
Dyma'r lefel isaf ers i'r elusen ddechrau cofnodi'r data yn 2022.
Dim ond 38% ddywedodd eu bod wedi cael eu holi am eu holl anghenion cymorth allweddol yn ystod eu triniaeth a gofal gwasanaeth iechyd.
'Haeddu gwell'
Dywedodd llefarydd ar ran elusen Macmillan fod "pobl Cymru yn haeddu gwell".
"Mae'r system wedi'i hymestyn, mae'r pwysau'n cynyddu ac i bobl sy'n byw gyda chanser - mae methiannau yn eu gofal yn gadael canlyniadau parhaol.
"Rhaid i ni wneud yn well. Ac mi allwn ni.
"Rydym yn galw'n glir ar Lywodraeth nesaf Cymru: mae angen lansio strategaeth canser newydd, ailwampio'r gefnogaeth i'r gweithlu, chwyldroi'r defnydd o ddata'r GIG ac – yn hollbwysig – rhoi'r gefnogaeth yr ydym yn ei haeddu, sy'n canolbwyntio ar y person."

Dim ond 17 oed oedd Daisy yn derbyn ei diagnosis o lymffoma Hodgkin
Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru: "Dros gyfnod tymor y Senedd hon, mae atgyfeiriadau canser wedi bod ar eu lefelau gorau erioed.
"Rydym yn gwybod bod mwy i'w wneud a dyna pam rydym yn buddsoddi yn ein gwasanaeth iechyd ac yn parhau i ymgynghori â rhanddeiliaid ar ein maniffesto ar gyfer yr etholiad y flwyddyn nesaf."
Dywedodd Mabon ap Gwynfor AS, llefarydd Plaid Cymru ar iechyd a gofal, fod y ffigyrau yn "peri pryder mawr" ac yn hollol annerbyniol.
"Fe fyddai Plaid Cymru yn cyflwyno Contract Canser Newydd i Gymru, gyda ffocws clir ar iechyd ataliol, ehangu canolfannau diagnosis cyflym a sicrhau mynediad teg at driniaeth i bawb," meddai.
Dywedodd James Evans AS ar ran y Ceidwadwyr fod y GIG, o dan lywodraethau Llafur, "wedi bod yn brin o staff arbenigol mewn canser".
"O ganlyniad, mae Llywodraeth Cymru wedi methu'n barhaus â chyrraedd eu targedau canser ers blynyddoedd. Byddai'r Ceidwadwyr Cymreig yn gwneud yn siŵr fod cyllid yn cael ei flaenoriaethu tuag at y rheng flaen."
Dywedodd llefarydd ar ran Reform UK: "Y cwbl mae Plaid Cymru yn ei gynnig ydy copïo polisïau'r SNP - er yn yr Alban mae ganddyn nhw'r nifer uchaf o farwolaethau cyffuriau yn Ewrop, treth incwm uwch na gweddill y DU, ac obsesiwn â chwalu'r Undeb er anfantais i'n GIG.
"Os mai dyma'r 'arfer gorau' y mae Plaid Cymru eisiau bwrw ymlaen ag e' yng Nghymru, yna'r unig ffordd i atal y gwallgofrwydd yw pleidleisio dros Reform."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.