Cantata: 'Gosodiad cerdd dant na welwyd ei debyg'
- Cyhoeddwyd
Wedi wythnosau o baratoi fe fydd “gosodiad cerdd dant na welwyd ei debyg o’r blaen” yn cael ei berfformio yn Aberystwyth nos Sadwrn fel rhan o gyngerdd cyhoeddi Gŵyl Cerdd Dant Aberystwyth a’r Fro 2025.
Mae Bethan Bryn wedi gosod hanes y geni ar gerdd dant ac mae’n gobeithio y bydd y cyfan yn “rhoi gwedd newydd ar hen hen stori”.
Wrth siarad â Cymru Fyw, dywedodd Bethan: "Dwi wedi bod ers rhai blynyddoedd eisiau rhoi stori o’r Beibl ar gerdd dant – tebyg i oratorio a’r stori symlaf i wneud oedd stori’r geni."
Defnyddiodd Feibl William Morgan oherwydd "mae yna fwy o guriad, mae yna fwy o rythm o fewn y geiriau – ac mae wedi gweithio allan yn reit dda gyda’r acen yn ei lle gan amlaf," meddai.
“Dwi’n cofio ers talwm canu llawer iawn o’r Beibl ar gerdd dant ond mae’r arferiad wedi mynd ac rydan ni wedi mynd i osod y pethau hawsaf.
"Ma’ isio ysgwyd tipyn ar bobl weithiau i sylweddoli bod modd cael ystyr mwy i eiriau a gneud i rywun feddwl am eiriau – yn fwy na bo’r acen yn hitio’r lle iawn.”
Mae Bethan Bryn, sydd wedi bod yn hyfforddi corau cerdd dant yn yr ardal ers degau o flynyddoedd, wedi gosod rhai o’r geiriau i garolau poblogaidd.
“Mae’r cyfan wedi gweithio yn ardderchog ac mae’r ymarferion wedi bod yn hynod hapus.
“Be dwi’n obeithio yw y bydd rhywun yn edrych ar stori’r geni o’r newydd.”
Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Rocet Arwel Jones: “Pan soniodd Bethan Bryn, brenhines cerdd dant y fro, am ei hawydd i greu Cantata Cerdd Dant doedd dim angen trafod mwy.
“Mae’n hyfryd gweld yr Ŵyl Cerdd Dant yn dychwelyd i’r ardal ac mae yna frwdfrydedd mawr."
“Mae wedi bod yn brofiad arbennig iawn canu yn y côr wrth i Bethan Bryn blethu geiriau o’r Hen Destament hyd at y Datguddiad gyda’i gilydd,” medd Eleri Roberts.
“Ryn ni gyd yn edrych ymlaen yn fawr at y cyngerdd cyhoeddi ac ry’n ni’n teimlo hi’n fraint cael y cyfle unigryw yma.”
Bydd y cyngerdd yn cael ei gynnal yn Eglwys San Mihangel yn Aberystwyth a bydd Gŵyl Cerdd Dant Aberystwyth a’r Fro yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn, 8 Tachwedd 2025.