Saith mlynedd o garchar i ddyn ar ôl iddo roi cyffuriau i ferch

Fe wnaeth Arab gyfaddef dau gyhuddiad o ddarparu canabis a chetamin, ond gwadu trosedd caethwasiaeth fodern
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi cael ei ddedfrydu i saith mlynedd o garchar ar ôl rhoi cyffuriau i ferch yn ei harddegau a dylanwadu arni i'w dosbarthu ar ei ran.
Fe wnaeth Najib Arab o ardal Y Waun Ddyfal, Caerdydd, roi canabis a chetamin i'r ferch, a dangos iddi sut i'w pecynnu a'u cuddio.
Cafodd y ferch, na ellir ei henwi am resymau cyfreithiol, ei chanfod yng nghefn tŷ Arab pan aeth heddlu i'r lleoliad ym mis Mai 2024.
Fe wnaeth Arab gyfaddef dau gyhuddiad o ddarparu canabis a chetamin, ond gwadu trosedd caethwasiaeth fodern cyn i reithgor yn Llys y Goron Caerdydd ei ganfod yn euog.
Clywodd y llys fod Arab, oedd yn ei ugeiniau ac yn ffoadur o Affganistan, wedi cwrdd â'r ferch ar ôl iddi anfon neges iddo ar Snapchat.
Fe fyddai wedyn yn anfon tacsis i'w cludo i'w dŷ, ac yn dangos iddi sut i drin, dosbarthu a chasglu arian am y canabis roedd yn ei ddarparu.
Ar un achlysur, fe ddywedodd wrthi am baratoi cetamin, a rhoi rywfaint iddi ddefnyddio.
Clywodd y llys bod y ferch wedi dweud celwydd am ei hoedran, ond bod Arab hefyd wedi dweud celwydd am ei oedran a honni mai 17 oed oedd o.
Fodd bynnag, roedd dogfennau gwahanol a welwyd gan yr awdurdodau yn dangos ei fod rywle rhwng 27 a 33 oed.
'Cymryd mantais'
Clywodd y llys ddatganiad ysgrifenedig gan y ferch, wedi ei ddarllen gan Emma Harris ar ran yr erlyniad, lle roedd hi'n dweud ei bod yn byw dan ofal a bod Arab wedi "cymryd mantais" o hynny.
Roedd wedi rhoi "bwyd, lloches a chyffuriau" iddi, cael rhyw gyda hi, a rhoi'r argraff yn wreiddiol ei fod o "wir yn poeni amdani".
Ond yn ddiweddarach dechreuodd deimlo nad oedd dewis ganddi ond dychwelyd ato, gan "boeni am y goblygiadau os oeddwn i ddim".
Ychwanegodd ei bod wedi teimlo "rhyddhad" pan ddaeth yr heddlu, ond fod y profiad yn dal i gael effaith ar ei bywyd pob dydd a'i hiechyd meddwl.
Yn amddiffyn, dywedodd William Chipperfield fod Arab wedi dod i Brydain fel ffoadur, a'i fod "i raddau, hefyd wedi dioddef o gael ei fasnachu".
Doedd Arab "erioed wedi bwriadu achosi loes seicolegol iddi", meddai, ond roedd ei fywyd o ddelio â chyffuriau wedi arwain at brofiad "anffodus" y ferch.
Fe blediodd Arab yn euog i un cyhuddiad yr un o ddarparu canabis a chetamin, dros gyfnod yn 2024.
Ond roedd wedi gwadu cyhuddiad o orfodi person i wneud gwaith gorfodol, yn groes i'r Ddeddf Gaethwasiaeth Fodern.
Yn dilyn yr euogfarn, fe wnaeth y Barnwr Lucy Crowther ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mawrth i saith mlynedd - gydag o leiaf dau draean o hynny dan glo - yn ogystal â dwy flynedd yn ychwanegol ar drwydded estynedig.
Cafodd Arab hefyd ddwy ddedfryd o 10 mis yr un am y troseddau cyffuriau, i redeg yr un pryd, a gorchymyn atal caethwasiaeth a masnachu.
Dywedodd y barnwr fod Arab yn amlwg wedi cael "effaith ddinistriol iawn" ar y ferch, sydd "dal yn cael problemau hyder ac ymddiried yn eraill".
"Wnaethoch chi ddim cymryd unrhyw gyfrifoldeb am eich gweithredoedd," ychwanegodd, gan feirniadu ei agwedd yn y llys wrth i ddatganiad y ferch gael ei ddarllen.
'Unigolyn ystrywgar'
Disgrifiodd Arab fel "unigolyn ystrywgar", gan ddweud bod angen dedfryd hir i warchod y cyhoedd oherwydd ei fod yn unigolyn sy'n "peri risg, yn enwedig i ferched ifanc dan 18".
Yn dilyn dedfryd Arab, dywedodd Gwasanaeth Erlyn y Goron ei fod wedi "hudo plentyn bregus i gymryd rhan yn ei waith masnachu anghyfreithlon drwy roi cyffuriau am ddim iddi".
"Roedd o'n ei rheoli ac yn cynnig cyffuriau iddi fel ffordd o wneud iddi gydymffurfio," meddai'r erlynydd arbennig Louisa Robertson.
"Mae'r ffordd y mae troseddwyr yn camfanteisio ar blant yn warthus.
"Bydd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn defnyddio holl rym y gyfraith i ddod â'r troseddwyr hynny sydd yn camfanteisio ar blant er budd eu henillion troseddol eu hunain gerbron y llys."