Lluniau: Papur newydd The Dynamic ac ardal Abertyleri

Golygfa o Abertyleri, 2015
- Cyhoeddwyd
Un o bapurau newydd mwya' unigryw Cymru oedd yr Abertillery and Ebbw Valleys Dynamic (2015-2019). Roedd ganddo gylchrediad o 5,000 o gopïau yn ei anterth ond cyhoeddwyd y rhifyn olaf yn 2019.
Mae stori'r papur a'r gymuned leol yn ardal Abertyleri yn cael ei hadrodd mewn arddangosfa newydd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd nes 30 Fawrth.
Mae'r stori'n cael ei hadrodd drwy gyfrwng lluniau y ffotograffydd Sebastian Bruno o'r Ariannin. Symudodd i Abertyleri yn 2015 a dechreuodd weithio fel ffotograffydd i'r papur gan gofnodi ymdrechion y golygyddion Tony Flatman a Julian Meek i gadw'r papur i fynd.
Mae Sebastian Bruno wedi rhannu rhai o'i luniau o'r papur newydd a'r gymuned yn y Cymoedd gyda Cymru Fyw:

Swyddfa y Dynamic yn Abertyleri, 2015

Menywod yn darllen The Dynamic yng nghanolfan gymunedol Swffryd, 2018

Swyddfa bost Brynithel yn 2017

Penwythnos ffasiwn Abertyleri, 2017

Cenhinen anferth yn Swffryd, 2016

Sul y Cofio yn Nantyglo, 2016

Defaid tu allan i Tesco yn Abertyleri, 2021

Parlwr cŵn yn Nhredegar, 2016

Y golygydd Julian Meek yn 2017

Rhifyn olaf y Dynamic, Rhagfyr 2019
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2024