Lluniau 'pobl iawn' cymuned Hirael, Bangor
- Cyhoeddwyd
Mewn tafarn ym Mangor mae ‘na lyfr ffotograffau o gymuned Hirael yn yr 1970au yn cael ei gadw. Mae’n arwydd o boblogrwydd llyfr Garry Stuart ymysg pobl yr ardal yma o Fangor bod copi ar gael yn y Mostyn Arms ac mewn nifer o gartrefi gerllaw.
Nawr mae’r gymuned sy’n byw yn Hirael heddiw wedi cael eu dogfennu mewn ffordd debyg ar gyfer arddangosfa a llyfryn newydd.
Mae’n rhan o brosiect cymunedol BLAS Pontio ar ôl trafod syniadau gyda thrigolion yr ardal.
Creu plac a chofnodi enwau llefydd oedd dau o’r cynigion, ond daeth y syniad terfynol i’r fei heb i neb ei gynnig.
Yn ôl Mared Huws, cydlynydd datblygu’r celfyddydau gyda chanolfan Pontio ym Mangor, daeth i’r amlwg yn y cyfarfod cyhoeddus am y prosiect bod dau ‘feibl’ yn Hirael - sef llyfr ffotograffiaeth Garry Stuart (Hirael, North Wales 1976) a 'Llyfr Sibols' (Sibols: Plentyndod Hirael 1900-1930) am hanes yr ardal. Sibols ydi’r enw am bobl yr ardal.
Meddai: “Roedd pobl Hirael yn mynd yn melancolig pan yn siarad am y ddau lyfr yna ac yn dweud pethau fel ‘those were the good old days’ a bod yna gymuned dda yno'r adeg hynny - ond wrth gwrs mae Hirael dal efo hynny felly wnaethon ni feddwl pam nawn ni ddim fersiwn ein hunain o’r llyfrau?”
Yr artist Gwion Aled Williams, fu’n byw yn Hirael am 13 mlynedd ond sydd bellach yn byw ar Ynys Môn, gafodd y gwaith o arwain y prosiect. Aeth o gwmpas yn recordio lleisiau’r bobl am yr ardal, eu hatgofion a’u bywydau er mwyn creu ffilm.
Ac fe aeth y ffotograffydd Iolo Penri o gwmpas y gymuned i dynnu lluniau.
Meddai Gwion Aled Williams: “Wnaeth Garry Stuart lyfr am Hirael ac mae lot o’r bobl yn dal i edrych ar hwnnw ac mae ‘na gopi yn y Mostyn - felly neshi feddwl pam ddim cael lluniau newydd ac wedyn mewn blynyddoedd i ddod bydd y gymuned yn edrych ar y llyfr yn yr un ffordd ag mae pobl yn edrych ar lyfr Garry Stuart rŵan.”
Nawr mae’r ffilm - sy’n cynnwys rhai o luniau Iolo Penri - ac arddangosfa o 20 o’r ffotograffau i’w gweld yn Storiel. Mae llyfryn bychan gyda rhai o’r lluniau wedi cael ei gyhoeddi.
Meddai Gwion: “Be’ sy’n neis ydi bod ar ôl diwrnod neu noson yn y Mostyn yn trafod, dim ots am y recordiad a’r ffilm, roedd cymaint o fwynhad o hel achau a siarad am y dyddiau a fu roedd hynny yn werthfawr yn ei hun i’r bobl.
“Maen nhw’n bobl sy’n falch iawn o’u hardal - Hirael ydi Bangor iddyn nhw - maen nhw’n gymunedol a gofalgar iawn. Fel y teitl i’r arddangosfa ‘pobl iawn’.”
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2019