Arestio dyn wedi diflaniad dynes o Gaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 45 oed wedi’i arestio wrth i'r heddlu chwilio am ddynes na sydd wedi cael ei gweld ers bron i bedwar mis.
Cafodd Charlene Hobbs, 37, o ardal Glan yr Afon yng Nghaerdydd, ei gweld ddiwethaf ar 7 Gorffennaf.
Dywedodd Heddlu De Cymru bod y dyn, o Adamsdown gerllaw, yn cael ei holi yng ngorsaf heddlu Bae Caerdydd.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Matt Davies fod swyddogion yn "cadw meddwl agored ynglŷn â lleoliad Charlene ond rydym yn bryderus iawn am ei lles".
“Gallai unrhyw wybodaeth, waeth pa mor ddi-nod, ein helpu ni i ddod o hyd iddi,” meddai.
"Rwyf hefyd yn apelio'n uniongyrchol ar Charlene. Os ydych yn darllen y stori yma, cysylltwch â'r heddlu i roi gwybod i ni eich bod yn ddiogel."