Casnewydd yn penodi cyn-seren Caerlŷr Christian Fuchs yn rheolwr

Christian FuchsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Fuchs, 39, yn rhan o dîm Caerlŷr pan enillon nhw Uwch Gynghrair Lloegr yn 2016

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-amddiffynnwr Caerlŷr, Christian Fuchs, wedi cael ei benodi'n rheolwr Clwb Pêl-droed Casnewydd.

Roedd Fuchs, 39, yn rhan o'r tîm a enillodd yr Uwch Gynghrair yn 2016, ac yn fwyaf diweddar mae wedi bod yn gweithio fel hyfforddwr cynorthwyol gyda Charlotte FC yn yr UDA.

Dywedodd Casnewydd ei fod wedi arwyddo "cytundeb hirdymor" gyda'r clwb.

Daw'r penodiad yn dilyn diswyddiad David Hughes - gafodd ei benodi yn ystod yr haf.

Dywedodd cadeirydd y clwb, Huw Jenkins: "Rydym yn gweld Christian fel y dyn iawn i arwain ein clwb ymlaen.

"Mae Christian yn uchelgeisiol ac mae o eisiau rheoli yn yr Uwch Gynghrair un diwrnod. Ry' ni'n credu ei fod yn teimlo'r un fath a ni ynglŷn â'r hyn allwn ni gyflawni gyda Chasnewydd yn y pen draw."

Mae'r Alltudion ar waelod tabl Adran Dau ar hyn o bryd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.