Arestio tri ar amheuaeth o glwyfo dynes yng Nghaernarfon

Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad ar Stryd Llyn fore Sul
- Cyhoeddwyd
Mae tri o bobl wedi cael eu harestio yn dilyn adroddiadau o ymosodiad ar ddynes yng Nghaernarfon.
Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad ar Stryd Llyn yn y dref toc wedi 10:30 fore Sul.
Roedden nhw wedi derbyn adroddiadau bod ymosodiad wedi bod ar ddynes 34 oed, a bod y rheiny oedd yn cael eu hamau wedi gadael yr ardal mewn fan.
Fe lwyddodd yr heddlu i stopio'r fan, a oedd yn teithio ar yr A5 yn ardal Bethesda.
Mae tri pherson oedd yn y fan - dynes 29 oed a dau ddyn 29 a 58 oed - wedi cael eu harestio ar amheuaeth o glwyfo, ac maen nhw'n parhau yn y ddalfa.
Cafodd y ddioddefwraig ei thrin gan y gwasanaeth ambiwlans, a'r gred yw nad yw ei hanafiadau yn bygwth nac yn newid bywyd.
Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio ar unrhyw un a welodd y digwyddiad i gysylltu â'r llu.
Ychwanegodd yr arolygydd Andrew Davies: "Hoffwn sicrhau'r gymuned leol nad ydyn ni'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad yma, a bydd swyddogion yn parhau yn ardal Stryd Llyn er mwyn gwneud ymholiadau."