Heddlu yn lansio ymchwiliad llofruddiaeth yn dilyn canfod corff

Leanne Williams gyda ceffyl.Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Leanne Williams yn 47 oed

  • Cyhoeddwyd

Mae ymchwiliad i lofruddiaeth wedi cael ei lansio, a dau wedi cael eu harestio, yn dilyn darganfod corff dynes yn ei chartref.

Heddlu De Cymru sydd wedi lansio'r ymchwiliad, a chafodd y corff ei ffeindio mewn cyfeiriad yn Townhill, Abertawe.

Cafodd Leanne Williams ei ffeindio yn dilyn heddlu yn cael eu galw i'r cyfeiriad am 14:00 ddydd Iau Chwefror 27.

Roedd Leanne Williams yn 47 oed, ac yn byw ar Ffordd Gomer.

Dangosodd archwiliad post-mortem yn y dyddiau'n dilyn, bod anafiadau sylweddol yn gyson hefo ymosodiad, meddai'r heddlu.

Mae dau ddyn wedi cael eu harestio fel rhan o'r ymchwiliad, ac maent yn nalfa'r heddlu ar hyn o bryd.

Dywedodd y Ditectif Brif Uwch-arolygydd, Mark O'Shea, bod y newyddion yn drasig: "Mae'r newyddion trasig yma yn sioc i'r gymuned."

"Rydym yn gosod symudiadau hysbys olaf Leanne at ei gilydd, o 18:00 ddydd Llun, Chwefror 24, hyd at 14:20 y dydd Iau canlynol pan ffeindiwyd."

Dywedodd Mr O'Shea hefyd nad ydynt yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad hefo'r achos yma ar hyn o bryd.

Mae tâp ynysu'r heddlu yn parhau yn ei le yn y cyfeiriad yn Ffordd Gomer.

Pynciau cysylltiedig