Cymorth posib i bobl sydd methu talu'r morgais

Menyw'n mynd trwy ei biliauFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Fe allai pobl sy'n cael trafferth talu eu morgais, dderbyn cymorth gan Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau nad ydyn nhw'n colli eu tai.

Mae llawer o bobl wedi gweld eu taliadau misol yn cynyddu yn sylweddol wrth i gyfraddau llog godi.

Mae'r cymorth ar gael i bobl sydd â chartref yng Nghymru gwerth hyd at £300,000 ac yn ennill dim mwy na £67,000 y flwyddyn fel aelwyd.

Bydd rhaid siarad ag ymgynghorydd dyled annibynnol i ddechrau ond fe allai ymgeiswyr cymwys fenthyg cymaint â £147,000, er mwyn talu rhywfaint o'u morgais a gostwng eu taliadau misol.

Ni fydd rhaid dechrau talu unrhyw beth yn ôl am bum mlynedd, ond bydd rhaid i'r benthyciadau gael eu talu'n ôl o fewn 15 mlynedd.

Os na fydden nhw'n gallu ei dalu'n ôl, fe allen nhw gael eu gorfodi i werthu eu cartrefi.

Yn ôl y llywodareth y nod yw lleihau nifer y perchnogion tai sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, drwy roi amser iddyn nhw ddatrys eu problemau ariannol.

'Gwneud synnwyr'

Er gwaethaf pryderon diweddar am gyllideb y llywodraeth, mae gweinidogion wedi neilltuo £40m dros y ddwy flynedd nesaf ar gyfer y cynllun Cymorth i Aros, ond arian penodol yw hwn ar gyfer benthyciadau ac nid ar gyfer gwariant dydd i ddydd.

Yn ôl y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, "mae'n gwneud llawer mwy o synnwyr" i wario'r arian ar hyn na gadael i bobl fynd yn ddigartref.

"Mae'n llawer rhatach yn nhermau dynol yn sicr, ond hefyd mewn termau ariannol i gadw pobl yn eu cartref eu hunain nag ydyw i'w trin fel pobl ddigartref," meddai.

Ac mae hi'n pwysleisio bod yna faich pellach ar wasanaethau cyhoeddus os yw pobl yn ddigartref.

"Mae angen llawer mwy o gefnogaeth ar blant sy'n profi'r math yna o drawma drwy gydol eu bywydau," dywedodd.

Disgrifiad o’r llun,

Y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James a'r AS Plaid Cymru Sian Gwenllian

Mae'r cynllun yma'n rhan o gytundeb y llywodraeth Lafur gyda Phlaid Cymru.

Yn ôl Sian Gwenllian AS mi fydd yn "helpu rhagor o bobl yn gynt" a "nid dim ond y rheini sydd dan fygythiad o weld eu cartrefi'n cael eu hadfeddu, sy'n golygu y byddan nhw'n gallu aros yn eu cartefi ac osgoi'r straen o fethu â thalu eu morgais".

Bydd unrhyw un sy'n cael benthyciad yn derbyn cyngor am ddim ynglŷn â chyllid a dyledion, gyda'r nod y bydd pobl mewn gwell sefyllfa ariannol erbyn diwedd y pum mlynedd gyntaf, pan fydd yr ad-daliadau'n dechrau.

Mae'r gweinidog yn gwadu eu bod yn helpu pobl i wthio'r broblem ymhellach i lawr y ffordd, gan ddweud y bydd yn rhaid i bob ymgeisydd dderbyn cyngor ynglŷn â'u dyledion yn gyntaf.

Felly yn ôl Julie James, hyd yn oed os nad yw'r ad-daliadau'n fforddiadwy ar ddiwedd y pumed flwyddyn, o leiaf fe fydden nhw wedi cael mwy o amser i "roi trefn ar eu hunain yn iawn".

Ond mae hi'n credu y bydd y cynllun yn caniatáu i'r rhan fwyaf o bobl "aros lle maen nhw ac aros yn eu cartref eu hunain".

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Tan nawr, dim ond os oedd eich tŷ mewn perygl o gael ei adfeddiannu y byddai Llywodraeth Cymru'n cynnig cymorth.

Mae'r cynllun yma ar gyfer pobl sydd wedi methu ad-daliadau misol, neu sy'n credu eu bod ar fin gwneud hynny.

Mae'r cyhoeddiad wedi ei groesawu gan yr elusen Shelter Cymru.

Yn ôl eu prif weithredwr, Ruth Power, fe fydd y cynllun yn helpu pobl pan fydd ôl-ddyledion yn dechrau cronni, yn hytrach na gorfod aros hyd nes y maen nhw'n wynebu straen difrifol adfeddu.

Dywedodd: "Rhaid inni nawr sicrhau fod cymaint o gartrefi â phosibl yn cael yr opsiwn i'w ddefnyddio er mwyn aros yn eu cartrefi."

Mae Llywodraeth Cymru'n awgrymu y gallai'r cynllun helpu rhwng 400 a 500 o aelwydydd y flwyddyn.

Pynciau cysylltiedig