Heddlu yn tynnu corff dyn o'r dŵr ym Mae Caerdydd

Bae Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yn ymddangos bod yr ardal o amgylch canolfan hamdden Channel View wedi'i chau tra bod y gwasanaethau brys ar leoliad

  • Cyhoeddwyd

Cafodd corff dyn ei dynnu o'r dŵr ym Mae Caerdydd ddydd Sul, meddai'r heddlu.

Roedd swyddogion wedi'u galw i'r lleoliad tua 11:52 ar ôl i aelod o'r cyhoedd rybuddio'r gwasanaethau brys.

Roedd yn ymddangos bod yr afon a'r bae wedi'u cau tra bod swyddogion - ynghyd â gwasanaethau tân, ambiwlans a bad achub - yn bresennol.

Cafodd y rhai a oedd yn cymryd rhan mewn chwaraeon dŵr yn yr ardal eu gofyn i adael y dŵr.

Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod yn cynnal ymholiadau i adnabod y corff a'r amgylchiadau o amgylch marwolaeth y dyn.

Ychwanegodd yr heddlu nad yw'n ymddangos bod unrhyw beth amheus ar hyn o bryd, ond bod eu hymchwiliad yn parhau.

Pynciau cysylltiedig