Y dafarn yn Llanelli ag ysbryd ynddi
- Cyhoeddwyd
Fuoch chi erioed mewn tafarn ag ysbryd ynddi?
Mewn clip archif Newyddion y BBC o 1985 cafodd un dafarn sylw am y digwyddiadau anesboniadwy yno, sef The Vale of Neath yn Llanelli.
Yn anffodus, fe gaeodd y dafarn ei drysau ym mis Mehefin 2023 ond yn yr 80au ’roedd hi’n brysur iawn, ac yn ôl bob sôn roedd ysbryd yn llechu yn nhŷ bach y dafarn.
Yn ôl un o selogion y dafarn bryd hynny, roedd y perchnogion Mark a Pat wedi gweld sawl peth rhyfedd iawn yn digwydd, fel “drysau’n clatshian, gole’n dod mlân yn y nos, y tegil yn dod mlân heb neb roi e mlân, y taps cwrw yn y tafarn yn rhedeg heb neb yn rhoi nhw mlân hefyd.”
Roedd cwsmeriaid yn honni eu bod wedi gweld ffigwr mewn clogyn ger ffenest y tai bach.
Roedd cwsmer arall yn dweud:
“Dw i ddim wedi gweld dim byd o gwbl, ond mae lot o’r cwsmeriaid yn gweud bod ysbryd i gael ’ma. Mae’r planhigion yn cwympo o’r shelf. ’Sneb o gwmpas ac mewn eiliad mae’r peth yn cwympo.”
Ond doedd yr ysbryd ddim yn ddigon i gadw’r yfwyr draw o’r dafarn gydag un yn dweud nad oedd hi’n credu ei fod yn “ysbryd drwg”.
Pwy yw ysbryd The Vale of Neath?
Ar 22 Mai 1861 roedd criw o ddynion wedi bod yn yfed yn nhafarn The Vale of Neath.
Mae’n debyg fod dau ohonynt, William Brazel a William Harry, wedi ffraeo am rhywbeth ac wedi methu datrys yr anghytuno.
Ar y ffordd adref yn oriau mân y bore aeth y dynion ati i ‘setlo’r’ ddadl gyda’u dyrnau, a bu ymladd ffyrnig ger llaw’r dafarn mewn ardal o Lanelli o’r enw Heol Bigyn.
Bu’n frwydr angheuol rhwng y ddau ddyn ifanc. Cafodd William Brazel ei lofruddio gan William Harry.
Y gred yw mai ysbryd Brazel sy’n ymweld â thafarn The Vale of Neath.
Mwy o fwganod
Nid hon yw’r unig dafarn yng Nghymru sy’n profi digwyddiadau brawychus a goruwchnaturiol...
Skirrid Inn, Y Fenni
Caiff y Skirrid Inn yn y Fenni ei ystyried y dafarn fwyaf arswydus yng Nghymru.
Mae’n hen hen dafarn, yn dyddio’n ôl i ddyddiau’r Normaniaid. Mae waliau’r adeilad wedi gweld dienyddiadau lu a swyngyfaredd gwrachaidd drwy’r canrifoedd.
Mae’r straeon am ysbrydion a digwyddiadau arswydus a threisgar anesboniadwy yn y dafarn yn ddi-rif.
Cynhelir helfa ysbrydion yno’n rheolaidd ac mae’r straeon yn dal i ddod.
Black Boy, Caernarfon
Mae’n debyg bod sawl un wedi gweld ysbryd yn nhafarn y Black Boy dros y blynyddoedd.
Yn ôl gwefan y dafarn, mae sawl ysbryd gwahanol wedi cael eu gweld yno gan gynnwys lleian (roedd lleiandy’n arfer bodoli tu ôl i’r Black Boy), drychiolaeth sy’n cael ei ’nabod fel ‘y crogwr’, hen ddyn sy’n eistedd wrth y bar, a chyn-farforwyn sy’n ymweld â’r lle arferai weithio.
Mae’n debyg hefyd bod pobl wedi clywed plentyn bach yn llefain yn y dafarn, a bod modd tawelu’r sŵn drwy siarad yn annwyl ag o.
Mae paentiad o’r ysbrydion gan yr artist Glain Roberts i’w weld yn hongian ar wal y dafarn.
The Bull Hotel, Abergele
Yn ôl bob sôn mae ’na sawl ysbryd yn llechu yng ngwesty’r Bull yn Abergele.
Bu farw mynach yno, mae’n debyg, ar ôl llithro ar lawr gwlyb yn y gwesty a chredir fod ei ysbryd dal yno.
Yn ôl adroddiadau eraill, mae rhai wedi gweld ymddangosiad o ddyn ifanc oedd yn byw yn y gwesty a gafodd ei ladd mewn damwain beic modur nepell o’r gwesty. Mae’n gwisgo dillad lledr sy’n cyd-fynd â beicio modur yn ôl staff a gwesteion y Bull.
Mae ambell un wedi gweld ysbryd dynes yno hefyd, ond hyd yma nid yw’r haneswyr yn gallu dyfalu pwy yw hi.
Ydych chi’n gwybod am dafarndai eraill ag ysbrydion yn llechu yno?
Gadewch inni wybod: cymrufyw@bbc.co.uk
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd31 Hydref
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2018