Nia Parry: 'Dwi'n credu mewn ysbrydion'
- Cyhoeddwyd
Rhai blynyddoedd yn ôl tra'n gweithio ar gynhyrchiad teledu, cafodd y cyflwynydd Nia Parry brofiad wnaeth newid ei ffordd o feddwl am y byd arallfydol.
Doedd hi, meddai, ddim yn credu mewn ysbrydion cyn hynny, ond fe wnaeth digwyddiadau'r cyfnod hwn newid ei theimladau am byth... dyma ei stori.
Doeddwn i ddim wir yn credu mewn ysbrydion... tan i mi weld a phrofi a theimlo un wyneb yn wyneb.
Roeddwn wastad wedi bod â diddordeb yn y byd tu hwnt i'r byd bydol. Dwi'n berson agored, chwilfrydig sydd â diddordeb mewn straeon ysbryd pobl erioed.
Roedd Nain yn mynd i'r Eglwys Ysbrydol yn rheolaidd ac yn ysu i gysylltu efo'r meirw, ond chafodd hi 'rioed rhyw lawer o lwc.
Mi fues i efo Nain ambell waith a rhywsut er fy mod yn rhyw hanner osgoi llygaid a sylw'r ysbrydegwyr, yn aml byddai o neu hi'n yn siarad yn uniongyrchol efo fi am bobl a phrofiadau personol oedd tu hwnt i unrhyw esboniad rhesymegol.
Ond daeth y profiadau mwya' ysgytwol un ar ôl y llall mewn cyfnod pan oeddwn i'n ffilmio mewn un lleoliad am gyfnod go hir.
Roeddwn yn aros mewn bwthyn bach clyd ar fy mhen fy hun. Ar y dechrau pethau bach rhyfedd, anesboniadwy yn hwyr fin nos fyddai'n digwydd - cadeiriau a stolion y gegin yn symud tra roeddwn i yn fy ngwely.
Carreg fawr oedd wrth y drws ffrynt yn ymddangos ar ganol y lolfa neu yn y gegin heb esboniad a phob drws ar glo.
Ceisiais chwilio am reswm, am esboniadau call rhesymegol. A oedd gan rhywun oriad i'r bwthyn ac yn chwarae triciau arna i?
Cynyddodd yr egni a'r gweithgarwch wrth i'r drws bach uwch ben fy ngwely agor a chau ym mherfedd y nos a drws fy stafell wely yn cil-agor yn araf cyn cau'n glep fel pe bai rhywun yn rhoi cic iddo.
Doeddwn i ddim ofn, ond roedd yn fy aflonyddu. Yn aml daeth rhyw ias o oerfel o rhywle a phasio heibio i mi a drwydda i a dim byd i'w weld. Dim ond teimlad.
Ond y digwyddiad a roddodd ysgytwad go iawn i mi oedd pan oeddwn yn fy ngwely rhyw gyda'r nos yn ysgrifennu dyddiadur a daeth rhyw oerfel o rhywle wnaeth i mi edrych i gyfeiriad y botel dŵr poeth oedd ar fwrdd ger waelod y gwely ac ystyried mynd i'w wagio ers y noson gynt a rhoi dŵr poeth o'r tegell ynddo i g'nesu.
Tra roeddwn yn ystyried hyn, hedfanodd y botel o un pen y stafell i'r llall gan deithio rhyw bum troedfedd a tharo'r wal ar yr ochr arall.
Cuddiais o dan y cwrlid gan deimlo curiad fy nghalon yn fy gwddw a'm clustiau. Fan'na arhosais i tan y bore yn gwbl llonydd, yn ofnus.
Wrth edrych ar y botel yn y bore, roedd hi'n wag - er ei bod yn llawn y noson gynt a doedd dim dŵr i'w weld yn nunlle.
Doedd dim esboniad. Doedd dim amheuaeth fy mod wedi gweld y peth yn digwydd. Ac o'r pwynt hwnnw 'mlaen mi wnes i dderbyn y byddwn yn cyd-fyw efo'r ysbryd/ion yn y bwthyn bach clyd yna.
Ar adegau roeddwn hyd yn oed yn gofyn yn dawel bach yn fy mhen iddyn nhw ymdawelu a rhoi cyfle i mi gysgu.
Pwy â ŵyr beth ddigwyddodd go iawn yn ystod y cyfnod hwnnw. Ai gor-flinder oedd ar fai? Neu a oedd rhywun rhywsut wedi chwarae triciau arnaf i danio fy nychymyg a hwnnw wedi rhedeg yn wyllt o ganlyniad? Wna i byth wybod yn iawn.
Ond ers hynny, mi dwi'n credu yn yr arallfyd ac mewn ysbrydion. Dwi'n derbyn. A dwi'n hoff o feddwl nad oes posib i ni ddeall popeth, ac nad oes rhaid i ni gael atebion o hyd, a bod gan bawb hawl i gredu yn yr hyn maen nhw'n gredu.
Cyn i Nain farw, mi ofynnodd i mi fynd i chwilio amdani drwy ysbrydegwr. Dywedodd y byddai'n dod i chwilio amdana i er mwyn sgwrsio. Dw i dal heb fod...er bod rhan ohona i eisiau gwneud.
Bosib achos mod i ofn, ac efallai achos mod i ddim eisiau cael fy siomi o fethu dod o hyd iddi. Rhyw ddydd...
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2020