Perchennog Airbnb wedi gwrthod dwy ffrind am eu bod yn Gymry

Roedd Jemma Louise Gough a Jamie Lee Watkins angen llety ym Manceinion ar gyfer gig yn y ddinas
- Cyhoeddwyd
Mae dwy fenyw o Gwmbrân wedi disgrifio'u sioc wedi i berchennog eiddo Airbnb wrthod eu cais am lety oherwydd eu bod yn Gymry.
Roedd Jemma Louise Gough a'i chyfaill Jamie Lee Watkins angen rhywle i aros ym Manceinion ar gyfer gig yn y Co-op Live Arena.
Mae Airbnb wedi atal y perchennog o'r wefan gan ddweud bod "dim lle i anffafriaeth" arno, "gan gynnwys ar sail cenedligrwydd".
Dywedodd Ms Gough wrth raglen BBC Radio Wales Breakfast ei bod yn rhannu ei phrofiad "er mwyn herio'r safbwyntiau cul yma".
'Anffafriaeth bur'
Roedd y ddwy ffrind wedi egluro i'r perchennog eiddo eu bod yn teithio o Gymru ar gyfer sioe'r DJ o Awstralia, Sonny Fodera.
Yn dilyn hynny daeth e-bost yn rhoi gwybod bod eu cais am lety wedi ei wrthod.
Mewn ymateb i neges yn gofyn am ba reswm, atebodd y perchennog: 'Because you're from WALES'.
"Pan weles i beth ddywedodd hi, ro'n i'n gegrwth," dywedodd Ms Gough.
"Anffafriaeth bur yw hynny ar sail o le ry'n ni'n dod."

Dywed Jemma a Jamie na chawson nhw ateb gan y perchennog i ymholiad pam y cawson nhw eu gwrthod
Dywedodd Jemma Gough bod ateb y perchennog wedi gwneud iddi deimlo "fel dieithryn" ac ofni bod dim croeso iddi ym Manceinion.
Fe gysylltodd y cyfeillion â chwmni Airbnb, sydd wedi atal y perchennog o'r wefan, ond dywed Ms Gough ei bod yn dal yn chwilio am atebion.
"Rwy' mor falch o fod yn Gymraes a dyna pam wnes i benderfynu i siarad am beth ddigwyddodd i ni," ychwanegodd.
"Rwy' eisiau herio'r safbwyntiau cul yma."
Dywedodd llefarydd ar ran Airbnb: "Does dim lle ar Airbnb i anffafriaeth, gan gynnwys ar sail cenedligrwydd.
"Gynted ag y daeth y gŵyn i'n sylw, fe wnaethon ni ymateb i'r gwestai i gynnig cefnogaeth ac atal y gwesteiwr tra'n ymchwilio i'r mater yma."