Tân mewn meithrinfa ym Mhwllheli

Yr olygfa ddydd Sul
Disgrifiad o’r llun,

Does dim adroddiadau fod unrhyw un wedi cael niwed yn y tân yn Meithrinfa Enfys Fach

  • Cyhoeddwyd

Mae'r gwasanaethau brys wedi bod yn ceisio diffodd tân mewn meithrinfa ym Mhwllheli.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Feithrinfa Enfys Fach ar Ffordd Caerdydd am tua 14:00 ddydd Sul.

Dywed Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru fod criwiau o Bwllheli, Nefyn a Chaernarfon wedi bod ar y safle yn ceisio diffodd y fflamau.

Does dim adroddiadau fod unrhyw un wedi cael niwed, ond dydyn nhw ddim yn gwybod pa mor ddrwg ydy'r difrod i'r adeilad.

Pynciau cysylltiedig