Angen 'enfawr' am fwy o ofalwyr maeth
- Cyhoeddwyd
Mae yna angen “enfawr” am fwy o ofalwyr maeth yng Nghymru yn ôl gwasanaethau maethu awdurdodau lleol.
Mae Maethu Cymru, y rhwydwaith sy'n cynrychioli timau maethu mewn cynghorau ledled Cymru, yn dweud bod dros 7,000 o blant yn y system ofal ar hyn o bryd, ond dim ond 3,800 o deuluoedd maeth sydd.
Dywedodd Alastair Cope, pennaeth Maethu Cymru, eu bod am fynd i’r afael â’r “camsyniadau” ynglŷn â maethu er mwyn cyrraedd eu targed o recriwtio 800 o aelwydydd maeth dros y ddwy flynedd nesaf.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi ymrwymo i gynyddu nifer y gofalwyr maeth yng Nghymru.
'Helpu plant oedd mewn angen'
Dechreuodd Emma a Joanna Johnston o Cross Hands yn Sir Gaerfyrddin faethu fis Ionawr diwethaf.
Mae gan Joanna blant hŷn o berthynas flaenorol, ac roedd y cwpl yn gwybod eu bod eisiau teulu gyda'i gilydd.
Dywedodd Emma: “Symudais i lawr i Gymru o Loegr i fod gyda Jo tua chwe mlynedd yn ôl, ac roeddwn i wastad eisiau cael plant mewn ryw ffordd.
“Mae gan Jo ei phlant biolegol ei hun sydd wedi tyfu i fyny, a fi'n credu maethu oedd y peth naturiol i ni wneud.
“Mae’n rhywbeth fi wastad wedi bod eisiau ei wneud.
"Doeddwn i ddim o reidrwydd eisiau plant biolegol fy hun, ac roeddwn i eisiau helpu plant oedd mewn angen.”
Mae Emma a Jo, sy'n athrawon, yn dweud gall y profiad fod yn heriol ond “yn hynod gwobrwyol."
Dywedodd Jo: “Rydych chi'n poeni os yw'r plentyn yn mynd i setlo, ond chi mor awyddus i'w helpu.
"Ni wedi bod ar lawer o anturiaethau gwahanol, fel caiacio a beicio mynydd, i weld beth mae hi'n ei hoffi.
"Roedd e mor wych gweld hi'n mwynhau, ac i ddangos iddi rhannau o Gymru nad oedd hi wedi’u gweld o’r blaen.
“Mae hi wedi integreiddio’n dda iawn gyda'r teulu.”
Angen fwy o ofalwyr maeth i blant hŷn
Mae Emma a Jo wedi mynd yn rhan amser yn eu gwaith, ond yn dweud bod pob sefyllfa yn wahanol.
Yn ôl Emma: "Nid oes cynllun sy’n gweithio i bawb, mae’n dibynnu ar eich amgylchiadau chi a’r plant sy’n cael eu lleoli gyda chi.
"Mae’n fwy na phosib i weithio’n llawn amser ond mae’n dibynnu ar yr amgylchiadau unigol."
Mae ffigurau gan Faethu Cymru yn dangos bod 53% o bobl ifanc mewn gofal dros 11 oed.
Dywed y mudiad eu bod am annog pobol i ystyried maethu plentyn yn eu harddegau, a'r gwahaniaeth y gall ei wneud i'w bywydau.
- Cyhoeddwyd22 Awst 2023
- Cyhoeddwyd15 Awst 2023
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2021
Mae Jo ac Emma wedi maethu merch 12 oed ac yn ôl Jo, mae “cymaint o gamsyniadau y mae angen mynd i’r afael â nhw.”
"Mae cymaint o bethau positif.
"Gallwch chi helpu trwy siarad â nhw am sut maen nhw'n teimlo, gallwch chi wneud pethau gyda'ch gilydd a dod o hyd i weithgareddau chi gyd yn mwynhau.
"Gyda phlentyn iau efallai na fyddwch chi'n gallu gwneud y pethau hynny."
'Camsyniadau' yn rhwystro darpar ofalwyr
Mae Maethu Cymru yn dweud mai “camsyniadau” allweddol sy’n atal darpar ofalwyr rhag eisiau maethu.
Mae rhai o'r rhain yn cynnwys diffyg hyder â’u gallu i gefnogi plentyn mewn gofal, y gred nad yw maethu yn cyd-fynd â bywyd yr unigolyn, a’r camsyniadau ynghylch dod yn ofalwr.
Dywedodd Alistair Cope, pennaeth Maethu Cymru: "Rwy'n meddwl bod rhai o'r camsyniadau'n ymwneud â'r ffaith bod pobl yn meddwl bod yn rhaid i chi feddu ar sgiliau neu alluoedd arbennig er mwyn dod yn ofalwr maeth.
"Rwy'n meddwl ei fod yn ymwneud â darparu'r cariad hwnnw a'r sefydlogrwydd hwnnw yn y cyfamser i'r plentyn."
Rheolau newydd yn 2027
Dywedodd Mr Cope fod rhai asiantaethau yn "gweithredu ar sail elw" ar hyn o bryd, yn wahanol i Maethu Cymru.
"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddileu elw o unrhyw beth sy’n ymwneud â gwasanaethau plant erbyn 2027, ac yn amlwg mae hynny’n cynnwys maethu."
Erbyn i'r rheolau newid yn 2027, mae Mr Cope yn dweud bydd angen mwy o ofalwyr maeth i dderbyn plant.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynyddu nifer y gofalwyr maeth yng Nghymru.
“Ry’n ni’n gweithio'n agos gyda'n cynllun maethu cenedlaethol, 'Maethu Cymru', i helpu awdurdodau lleol sicrhau bod cyflenwad parod o ofalwyr maeth ymroddedig ac amrywiol, sydd wedi’u hyfforddi ac sy’n cael cefnogaeth dda, ar gael i ddarparu amgylchedd teuluol sefydlog a gofalgar, yn lleol, i'n plant a'n pobl ifanc."