Cyngherddau Caerdydd: 'Blaenoriaethu elw ar draul natur a'r gymuned'

Llun o Paul Barret yn gwynebu'r camera gyda gwyrddni'r parc tu ol iddo
Disgrifiad o’r llun,

Dydy Paul Barret ddim yn erbyn cyngherddau yng Nghaerdydd, ond mae'n credu nad dyma'r lle cywir

  • Cyhoeddwyd

Bydd rhai o fawrion y byd cerddoriaeth fel Stevie Wonder a Noak Kahan yn dod i Gaerdydd i chwarae ar gaeau Blackweir o 27 Mehefin tan 9 Gorffennaf.

Mae Cyngor Caerdydd yn dweud bydd y cyngherddau yn dod â £35m i economi'r ddinas, ond mae pobl leol yn pryderu am effaith y cyngherddau ar y parc.

Mewn cyfarfod cyhoeddus fe gytunodd arweinydd y cyngor Huw Thomas i gydweithio gyda'r gymuned ar ôl y cyngherddau, ond yn ôl Cymdeithas Ffrindiau Parc Bute fe fydd y difrod wedi cael ei wneud.

Yn y cyfarfod cyhoeddus fe rannodd aelodau o'r cyhoedd bryderon ynglŷn â sŵn y cyngherddau a'r effeithiau ar fywyd gwyllt a natur y parc.

Rhes o doiledi portaloo o flaen llwyfan ar gae Blackweir
Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r olygfa sydd o flaen tŷ un o'r ymgyrchwyr

Mae Paul Barret yn gwirfoddoli'n gyson yn y parc ac yn teimlo'n angerddol dros ffyniant natur a bywyd gwyllt.

"Dwi'n byw yma ers dros 50 o flynyddoedd ac yn arfer mynd i'r parc gyda'n pedwar o blant a'r ci.

"Mae'n eiconig, parc eiconig. Mae mwy o goed pencampwyr yn y parc yma nag yn unrhyw barc ym Mhrydain, a dwi jyst yn teimlo mor drist."

Yn ôl Ffrindiau Parc Bute dydyn nhw ddim yn gwrthwynebu digwyddiadau cerddoriaeth yng Nghaerdydd, ond yn hytrach y lleoliad yn yr achos yma.

"Dydyn ni ddim yn erbyn cyngherddau ac rydyn ni'n cael nhw'n rheolaidd yn y Castell ac yn Stadiwm y Principality - llefydd sydd yn gyfarwydd gyda'r math yma o ddigwyddiadau," meddai Mr Barret.

"Maen nhw'n galw'r safle yn un adloniant ond dyw e ddim, mae'n barc."

Llun o'r cyfranydd yn eistedd ar mainc yn edrych ar y camer
Disgrifiad o’r llun,

Mae Melissa Boothman yn rhedeg caffi'r Secret Garden yn y parc ac wedi bod yn clywed pryderon gan rai o'i chwsmeriaid

Fel perchennog caffi yng nghanol y parc mae Melissa Boothman yn poeni am yr effaith gaiff y cyngherddau ar fynediad y cyhoedd i'r parc.

"Mae Bute Park yn le hanfodol ar gyfer ymlacio ac mae'n lleoliad poblogaidd sy'n helpu lles pobl er mwyn dianc o brysurdeb canol y ddinas."

Mae'r goedwig o amgylch caeau Blackweir wedi ei gofnodi fel ardal o goedwig hynafol, sydd yn ôl Melissa Boothman, yn hynod anarferol mewn ardal ddinesig.

Fel sawl aelod arall o'r ymgyrch, mae Ms Boothman yn gallu gweld y buddion o gynnal y cyngherddau yng Nghaerdydd er mwyn "ariannu'r cyngor, ond mae 'na lefydd gwell sydd ddim â chymaint o natur o'i hamgylch".

Cynulleidfa yn edrych ar sgrin lle mae Huw Thomas yn siarad
Disgrifiad o’r llun,

Daeth dros 50 o bobl i gyfarfod cyhoeddus i drafod y cyngherddau

Fe drefnodd ymgyrchwyr gyfarfod cyhoeddus lle'r oedd arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas, yn ymateb i bryderon.

Dywedodd Mr Thomas fod y cyngor wedi bod yn drylwyr wrth ddilyn cyngor ymgynghorwyr ecolegol ac arbenigwyr er mwyn lleihau'r ymyrraeth ar fywyd natur ac ar y cyhoedd.

Dywedodd y cyngor eu bod nhw am barhau i fod yn agored gyda chymuned Parc Bute ac wedi gosod mesurau pendant mewn lle.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor y byddan nhw'n "parhau i gysylltu â phawb sy'n cael eu heffeithio, gan gynnwys busnesau a thrigolion lleol, i fynd i'r afael ag unrhyw gwestiynau a phryderon a allai fod ganddynt".

'Effaith negyddol ar natur'

Er yr ymgynghori, mae rhai ecolegwyr yn poeni am yr effeithiau ar fywyd gwyllt y parc.

Mae Rhys Lewis yn ecolegydd sy'n gweithio ar arolygon o gwmpas Cymru yn edrych ar bresenoldeb ystlumod ac adar.

Dywedodd: "Gall cyngherddau mawr ym meysydd Blackweir ddod â chynnydd yn y lefel o sŵn, goleuadau artiffisial a thraffig traed sydd i gyd yn gallu effeithio ar natur mewn ffordd negyddol."

Mae'r drwydded sydd gan y cyngor yn caniatáu i hyd at 35,000 o bobl fynychu'r lleoliad ar gyfer cyngherddau, ac yn caniatáu gwerthiant alcohol a bwyd.

Mae Mehefin a Gorffennaf yn fisoedd pwysig i adar, ac mae pryder y gallai cerddoriaeth swnllyd aflonyddu a drysu adar sy'n nythu, ac yn ei dro arwain at gynnydd mewn marwolaethau cywion ac adar.

Llun o pebyll cyfagos i blanhigion
Disgrifiad o’r llun,

Mae trigolion lleol yn poeni am lefel y sŵn sy'n deillio o'r cyngherddau

Ar ddiwedd y cyfarfod cyhoeddus fe gytunodd yr ymgyrchwyr ac arweinydd y cyngor eu bod am gynnal adroddiad yn dilyn y digwyddiadau.

Yn y cyfarfod fe ddywedodd Huw Thomas bod y cyngor am i Gaerdydd fod yn ddinas sy'n denu cerddorion a digwyddiadau cerddorol mawr, ac mae cyngherddau Blackweir yn rhan o'r prosiect yma.