Anturiaethau Bluey nawr ar gael yn y Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae anturiaethau un o gŵn enwoca’r byd nawr ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae Bluey wedi bod yn ffenomenon; wedi ennill gwobrau di-ri yn Awstralia, ac wedi dod yn ffefryn i blant yno a draw yma ym Mhrydain.
Hanna Hopwood sy’n gyfrifol am addasu a chyfieithu Bluey i’r Gymraeg gyda’r llyfr - Nos Da Ystlum Ffrwythau.
Dywedodd Hanna: “Dwi wedi bod wrth fy modd yn treulio amser ym myd Blŵi a dod ag ysbryd y cyfan yn fyw yn y Gymraeg.”
Mae Bluey yn gi Heeler glas sy’n byw gyda’i theulu o'i thad a mam a’i chwaer fach Bingo.
Hyd yma yn 2024, Bluey yw'r gyfres ffrydio gafodd ei gwylio fwyaf yn America, gyda 584 miliwn awr o'r ci bach wedi'i wylio.
Un o animeiddwyr Bluey yw'r Cymro Owain Emanuel o Ben-y-bont ond sydd bellach yn byw ac yn gweithio'n Brisbane.
Dywedodd wrth BBC Cymru Fyw nôl yn 2023 fod gweithio ar ddylunio Bluey yn "job fawr."
"Mae'n job fawr oherwydd mae gan bob cymeriad ar Bluey dros 150 o siapiau ceg, dros 200 o ddwylo a 40 troed," meddai.
Mae Hanna Hopwood ei hun yn cyfaddef iddi fwynhau darllen llyfrau Bluey i’w phlant ei hun a bod y profiad o addasu’r llyfr wedi bod yn un “arbennig” iddi.
“Mae pob un o benodau a llyfrau'r gyfres wedi dod â boddhad mawr i ni fel teulu - gydag Iwan (ei gŵr) a minnau'n mwynhau cymaint (os nad fwy, weithiau!) â'r plant!”
Yn aml mae negeseuon am deulu a chyfeillgarwch yn treiddio drwy straeon Bluey ac roedd hynny’n elfen bwysig arall pam y gwnaeth Hanna benderfynu addasu Bluey i’r Gymraeg.
“Mae'n ein dysgu, ein hatgoffa a'n cymell i ystyried beth sy'n bwysig i ni mewn ffordd mor hyfryd, hwyliog a hapus."
Yn yr addasiad o Nos Da Ystlum Ffrwythau, mae Blŵi yn dychmygu ei hun fel ystlum ffrwythau, yn esgyn drwy awyr y nos ar antur freuddwydiol fythgofiadwy.
Bwriad Hanna gyda’r addasiad, meddai, yw i “greu rhywbeth sy’n teimlo’n gysurus a chartrefol i ddarllenwyr bach Cymru.”
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd28 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2021