Lluniau: Mistar Urdd ym Maldwyn

  • Cyhoeddwyd

Hei, Mistar Urdd, ty’d am dro ar hyd y ffyrdd!

Wel, mae mwy nag un Mistar Urdd ar hyd ffyrdd pentrefi ardal Maldwyn ar hyn o bryd, yn barod i groesawu plant a phobl ifanc Cymru i faes Eisteddfod yr Urdd 2024.

Dyma'r tro cyntaf i Eisteddfod yr Urdd ymweld â Maldwyn ers 1988 a bydd wedi'i leoli ar gaeau Fferm Mathrafal, ger Meifod rhwng 27 Mai – 1 Mehefin 2024.

Mae Menter Iaith Maldwyn wedi bod yn cynnal gweithdai harddu i greu arwyddion o bob math, ac mae nifer o gymunedau, busnesau, ysgolion ac unigolion wedi mynd ati ar eu liwt eu hunain i addurno eu cartrefi, pentrefi, busnesau ac ysgolion.

Sawl Mistar Urdd welwch chi yn y lluniau hyn?

Ffynhonnell y llun, Gary Williams
Disgrifiad o’r llun,

Gweithio ar y fferm ac nid canu ar y llwyfan fydd y ddau Mistar Urdd yma yn ei wneud ym Mhontrobert

Ffynhonnell y llun, Gary Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mistar Urdd arall yn rhwyfo ar Afon Efyrnwy...

Ffynhonnell y llun, Gary Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae yna fwynder i Faldwyn ond mae yna olygfeydd tuag at fynyddoedd Cambria a Meirionnydd hefyd

Ffynhonnell y llun, Gary Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Mistar Urdd yma gan deulu Maes Mathrafal, Llangynyw yn gallu gyrru tractor

Ffynhonnell y llun, Gary Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae dawnsio gwerin ar flwch post yn fwy o hwyl na dawnsio gwerin ar lwyfan...

Ffynhonnell y llun, Gary Williams
Disgrifiad o’r llun,

Croeso cynnes i Eisteddfodwyr gan Ysgol Bro Caereinion

Ffynhonnell y llun, Gary Williams
Disgrifiad o’r llun,

Ymlacio mae'r ddau Mistar Urdd yma yn Ysgol Pontrobert

Ffynhonnell y llun, Gary Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ysgol Llanfyllin wedi bod yn brysur yn creu llun o'r goeden unig sy'n Llanfyllin... gyda Mistar Urdd ar bob cangen

Ffynhonnell y llun, Gary Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae telynau di-ri i'w gweld hefyd, diolch i ganghennau Merched y Wawr ym Maldwyn. Llinos Evans o Lwydiarth sydd wedi gwneud y delyn yma

Ffynhonnell y llun, Gary Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llanfyllin Men's Shed a The Crafty Hub Group hefyd wedi bod yn brysur yn creu draig goch

Ffynhonnell y llun, Gary Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae plant Ysgol Cegidfa wedi creu Mistar Urdd allan o hen deiars

Ffynhonnell y llun, Gary Williams
Disgrifiad o’r llun,

Diolch am y croeso glwb ffermwyr ifanc Dyffryn Banw

Ffynhonnell y llun, Gary Williams
Disgrifiad o’r llun,

Catrin, Owain a Lois o'r Wern yn Y Foel sydd wedi gwneud yr arwydd clyfar yma

Ffynhonnell y llun, Garry Williams
Disgrifiad o’r llun,

Sawl Mistar Urdd sydd ym Mhen-Y-Bont-Fawr?

Ffynhonnell y llun, Gary Williams
Disgrifiad o’r llun,

Tan y tro nesaf Maldwyn!