Arestio dyn yn dilyn gwrthdaro rhwng cefnogwyr pêl-droed

Cafodd grŵp o bobl eu gweld yn taflu poteli y tu allan i dafarn yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu De Cymru wedi arestio dyn am drosedd yn erbyn y drefn gyhoeddus yn dilyn gwrthdaro rhwng cefnogwyr pêl-droed ddydd Sadwrn.
Bu swyddogion heddlu arbenigol yn bresennol ger cyffordd Heol Eglwys Fair a Stryd Wood yn y brifddinas cyn y gêm ddarbi rhwng Caerdydd a Bristol city.
Fe orffennodd y gêm yn gyfartal gydag un gôl yr un.
Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod yn "ymwybodol o rai achosion o anhrefn".
"Yn anffodus, bydd y lleiafrif bob amser yn ceisio cymryd rhan mewn anhrefn ond mae swyddogion yn ymateb yn gyflym i atal unrhyw ddigwyddiadau o'r fath.
Ychwanegwyd bod swyddogion yn gweithio i sicrhau bod y cefnogwyr yn gadael y stadiwm yn ddiogel.