Arestio dyn yn dilyn marwolaeth gweithiwr yn ardal Llangwm

Bu farw'r dyn ar ôl cael ei anafu tra'n gweithio yn ardal Llangwm ddydd Gwener
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ddynladdiad drwy esgeulustod difrifol yn dilyn marwolaeth dyn 34 oed yn Sir Benfro.
Cafodd y dyn ei anafu tra'n gweithio mewn eiddo yn ardal Llangwm ar ddydd Gwener, 12 Medi.
Cafodd ei gludo i'r ysbyty lle bu farw'n ddiweddarach.
Mae teulu'r dyn wedi cael gwybod ac maen nhw'n derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.
Cafodd dyn 60 oed ei arestio ar amheuaeth o ddynladdiad drwy esgeulustod difrifol ac mae bellach wedi'i ryddhau dan ymchwiliad.
Cafodd dyn arall 64 oed ei gyfweld yn wirfoddol mewn cysylltiad â'r digwyddiad hefyd.
Mae'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch a'r crwner wedi cael gwybod am y digwyddiad, meddai Heddlu Dyfed Powys.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.