Dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ger Caernarfon

HeddluFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad un cerbyd ger Caernarfon nos Lun.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad rhwng Bontnewydd a Rhostryfan toc wedi 20:20.

Cafodd gyrrwr y car ei gludo i'r ysbyty ond bu farw yno yn ddiweddarach, meddai Heddlu'r Gogledd.

Roedd y ffordd ar gau am gyfnod yn dilyn y gwrthdrawiad.

Mae'r crwner wedi cael gwybod am y digwyddiad.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig