Tymor hel mwyar duon

Adam Jones
- Cyhoeddwyd
Mae mis Awst a Medi yn gyfnod perffaith i fynd ati i grwydro ar hyd caeau a pherthi Cymru i gasglu mwyar duon.
Adam Jones, neu Adam yn yr ardd, sy' wedi bod yn rhannu ei gyfrinachau am hel mwyar duon a beth yn union i wneud gyda nhw ar ôl eu casglu nhw:
Hen draddodiad sy'n perthyn i bawb
Rydym wedi bod yn casglu a bwyta mwyar duon yng Nghymru ers oes yr arth a'r blaidd, hynny yw, am filoedd o flynyddoedd a does dim byd yn wahanol eto eleni.
Mae'n hen draddodiad sy'n perthyn i ni gyd. Fel crwtyn rwy'n cofio mynd i gasglu mwyar yng nghaeau Glanaman a gweiddi 'bagsi, patsh fi' wrth inni frwydro am y llwyni gore i gasglu'r nifer fwyaf o ffrwythau mewn dim o amser.
Ffrwythau bach du bwytadwy yw mwyar duon yn tyfu ar fieri, neu Rubus Fruticosus yn Lladin. Maen nhw'n llwyni ddigon pigog yn llawn drain miniog ac mae angen cymryd gofal wrth eu casglu, ond bois bach, mawr yw'r wobr wedyn!
Mae modd defnyddio mwyar duon i goginio sawl rysáit blasus - cacennau melys a sur, pastai 'fale a mwyar duon, jamiau, gwin, jin a surop i drechu anwydau'r gaeaf.

Surop i drechu annwyd?
Ie wir, mae mwyar duon yn llawn fitamin C.
Mae gymaint â hanner y cyfanswm fitamin C y dylwn ni ei gael mewn diwrnod mewn un cwpan 30g o fwyar duon.
Maen nhw hefyd yn isel iawn mewn carbohydradau a chalorïau sy'n golygu y gallwn ni fwyta tipyn ohonyn nhw, heb boeni am greu twll ychwanegol ym melt y trowsus!
Mae mwyar ymhobman
Does dim angen ichi fynd i chwilio ymhell i ddod o hyd i fwyar duon chwaith, maen nhw'n tyfu wrth ochrau prif ffyrdd, parciau, hewlydd cefn a chaeau ac nid yn unig yng nghefn gwlad - maen nhw'n gyffredin yn ein dinasoedd a'n trefi hefyd!
Dyma ffrwyth byd natur mewn ffordd, mae gymaint o rywogaethau gwahanol yn ddibynnol arnynt i oroesi'r gaeaf.
Mae'r gwenyn wrth eu bodd yn peillio'r blodau ym mis Mehefin, llygod bach ac adar yn pesgi arnynt yn ystod yr hydref am egni cyn i'r tywydd droi a ninnau hefyd yn eu storio er mwyn mwynhau blas yr hydref yn ystod y gaeaf.

Mwyar Mihangel
Yn ôl hen gred mae'n anlwcus i bobl gasglu a bwyta mwyar ar ôl dydd Gŵyl Mihangel (Medi 29). Ar y dyddiad hwn y collodd y diafol frwydr gyda'r Angel Mihangel a chwympo o'r nefoedd a glanio'n boenus ar lwyn o fwyar duon.
Yn ôl bob tebyg, bydd y diafol yn dial bob blwyddyn wrth boeri neu wneud dŵr ar ben y mwyar yn ystod mis Hydref.
Cyngor Casglu Mwyar:
Gwisgwch ddillad sy'n gorchuddio'r croen - hen gotiau neu siwmper trwm i osgoi sgathru breichiau gyda'r drain.
Casglwch y mwyar sydd yn y brigau uchaf oddi ar y ddaear ymhell wrth unrhyw gadno neu gi direidus.
Os yn mentro i dir amaethyddol, holwch ganiatâd y ffermwyr o flaen llaw a gofalwch ichi gau bob giât a pheidio a thorri bylchau yn y cloddiau.
Hefyd, ewch â digonedd o bocsys bwyd gwag/bwcedi - os yn flwyddyn dda, fe lenwch chi nhw glatsh!
Ond sut mae gwybod bod y mwyar yn barod?
Casglwch y mwyar sydd â phob gronyn yn ddu, dyma'r rhai fwyaf aeddfed sydd yn hawdd eu codi oddi ar y planhigyn.
Gwiriwch nad oes unrhyw gynrhon neu lwydni ar y ffrwythau wrth eu casglu.
Ewch yn gynnar yn y bore neu gyda'r hwyr i'w casglu pan fydd yr heulwen yn ddof - bydd y ffrwythau'n cadw'n fwy ffres!
Unwaith ichi gasglu'ch mwyar bydd angen ichi eu golchi'n dda a'u defnyddio'n weddol sydyn gan nad ydynt yn cadw'n ffres am gyfnod hir. Mae modd ichi eu rhewi i'w defnyddio rhywbryd eto neu eu cadw ar ffurf surop melys neu jam.

Beth am roi cynnig ar rysáit mwyar duon?
- Cyhoeddwyd29 Awst 2023
Cyhoeddwyd fersiwn o'r erthygl yma yn 2021.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd18 Chwefror
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2024