Bwyta ein gerddi: Beth allwch chi ei blannu?
- Cyhoeddwyd
Efallai fod eich gardd yn llawn planhigion lliwgar a hardd, ond ydyn nhw'n blasu'n dda?
Mae Eirlys Rhiannon o Gaerdydd wrth ei bodd yn arbrofi gyda phlanhigion bwytadwy, ac yma mae ganddi gyngor ynglŷn â pha blanhigion blasus y gallwch chi eu plannu yn eich gardd:
Wrth weld y dail yn troi a disgyn, gallech feddwl nad oes rhaid rhoi sylw i'r ardd nawr. Ac yn wir, mae hi'n ddiwedd ar blanhigion unflwydd tyner fel tomatos a phwmpenni.
Ond os ydych am dyfu - a chynaeafu - blwyddyn ar ôl blwyddyn, mae’r hydref yn berffaith i blannu planhigion lluosflwydd: mae'r pridd yn dwym, does braidd angen dyfrhau (mae hi'n glawio gymaint), ac mi fydd y planhigyn yn sefydlu rhwydwaith o wreiddiau dwfn i'w gynnal dros y tymor tyfiant flwyddyn nesaf. Gwell fyth, byddwch yn lleihau gwaith plannu gwanwyn nesaf.
Os oes angen sbardun pellach arnoch chi, dyma restr o blanhigion bwytadwy lluosflwydd dwi'n eu hargymell ar gyfer bron unrhyw ardd - o goeden lawr i blanhigion isel.
Ac os ydych yn dechrau bant yn eich gardd, gall y casgliad yma lenwi cryn dipyn o'ch gwagle gyda phrydferthwch a blas.
Coeden: Ffigysbren – Ficus carica
Does dim byd tebyg i flas ffigysen sydd wedi aeddfedu yn yr haul yn eich gardd eich hun. Nid ffrwyth go iawn ydynt ond blodau tu-fewn tu-fas, ac mae torri i mewn iddynt yn dangos prydferthwch y strwythur.
Er bod y goeden yn gallu tyfu yn fawr, mae hi ond yn ffrwytho os ydy'r gwreiddiau wedi eu cyfuno, unai trwy ei thyfu mewn pot mawr neu trwy roi slabiau pafin mewn ciwb o'i chwmpas.
Fe ddaw'r ffrwyth ar dyfiant blwyddyn diwethaf, felly trwy docio gofalus bob mis Chwefror cewch ei chadw i'r maint perffaith i gynaeafu'n hawdd.
Plannu: Safle heulog, pridd da, gyda digon o dywod neu grit.
Gofal: Tocio canghennau mawrion mis Chwefror; ar ddiwedd mis Mehefin pinsio brig tyfiant eleni.
Planhigyn dringo: Ciwi Coctel - Actinidia arguta
Os oes ardal fawr gennych i'w orchuddio, megis wal neu ffens, ewch amdani gyda ciwi math coctel. Mae croen y ffrwyth yn llyfn (heb y blew sydd dros ffrwyth ei chwaer enwog), ac maen nhw faint bys bawd. Hynny yw, yn union fel losin.
Plannu: Safle heulog, pridd da, a'i blannu ar ongl fel bod y gwreiddiau o leiaf 30cm i ffwrdd o'r wal.
Gofal: Myltsh bob blwyddyn. Tocio strwythurol yn ystod y gaeaf; mae hi'n werth edrych ar-lein am sut i ddewis pa ganghennau i'w torri neu gadw.
Wedyn, dau dociad haf, un ym mis Mehefin i gadw'r tyfiant yn ei le, a'r llall ddechrau mis Awst er mwyn sbarduno ffrwyth.
Llwyn: Bachgen Llwm - Leycesteria formosa
Anwybyddwch yr enw anaddawol Cymraeg, mae'r planhigyn yma yn unrhywbeth ond llwm!
I ddechrau, mae'n bert: blodau bach gwyn gyda bractiau piws, o'r haf cynnar i'r hydref, ac mae'r gwenyn wrth eu bodd yn eu peillio.
Wedyn fe ddaw'r aeron, ac waw, mae'r rhain yn arbennig. Pan yn aeddfed (ac nid cyn hynny!) maent yn ddu, a'r unig ffordd i'w cynaeafu yw eu tynnu'n dyner o'u gwaelod, a'u rhoi fel diferyn yn syth i'ch ceg. Mae'r blas fel cymysgedd o goffi, crème brûlée, a siocled tywyll!
Chewch chi ddim yr aeron i gyd, ond mae yna ddigonedd ac mae'r adar hefyd yn dwlu. Plannwch y boi diddorol yma ger llwybr er mwyn eu cynaeafu'n hawdd.
Plannu: Haul neu bach o gysgod. Yn ffynnu mewn unrhyw bridd.
Gofal: Myltsh bob blwyddyn. Gellir tocio yn weddol galed ym mis Chwefror, gan adael strwythur o chwarter y maint hoffech i'r planhigyn dyfu; yn ymateb yn dda os oes rhaid ei dorri nôl yn ystod y tymor tyfu.
Planhigyn Llyseuol: Lili'r Undydd - Hemerocallis spp
Fel mae'r enw yn ei awgrymu, ond am un diwrnod mae'r lilis prydferth yma yn blodeuo. Felly unwaith daw mis Gorffennaf, peidiwch oedi; cynaeafwch rheini sydd wedi agor heddiw, a'u mwynhau ar eich salad heno.
Mae'r petalau yn isel eu blas, ond uchel eu lliw. Coch tywyll yw fy hoff rai i, ond mae'r mathau oren a melyn yn hawdd i'w tyfu hefyd.
Plannu: Haul neu bach o gysgod. Does dim angen pridd da ond bydd myltsh blynyddol yn helpu.
Gofal: Torri'r hen flodau i ffwrdd dros yr haf er mwyn parhau'r blodau, a thacluso'r hen dyfiant yn y gwanwyn unwaith i'r tyfiant ail-ddechrau.
Planhigyn Isel: Mefus - Fragaria x ananassa
Ie, mi wn i, blas yr haf, ac mor hawdd i'w tyfu. Mae hi bellach yn bosib prynu casgliadau o fathau sydd yn rhoi ffrwyth am gyfnodau gwahanol o'r haf, er mwyn cynhaeafu'n gyson dros fisoedd.
Ac mae'r planhigion yn rhoi ymledyddion (runners) allan yn yr haf hwyr, sef planhigion newydd ar daith. Felly fedrwch lenwi ymylau eich borderi gyda ffrwyth hawdd.
Plannu: Haul / bach o gysgod. Pridd da.
Gofal: Myltsh blynyddol, tail neu fwyd (e.e pelenni tail ieir) yn ofalus yn y gwanwyn cynnar. Gellir rhoi gwellt o gwmpas y planhigion ym mis Mai er mwyn gofalu am y ffrwyth - ond does dim angen pendant ar hyn.
Codwch y planhigion newydd wrth iddynt wreiddio, a'u rhoi mewn ardal arall, fel na aiff eich ardal wreiddiol yn rhy llawn.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd27 Medi 2024
- Cyhoeddwyd17 Medi 2024